Gwahardd pennaeth ysgol gynradd Gymraeg yn Sir Gâr

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Gymraeg FfwrnesFfynhonnell y llun, Google

Mae Cyngor Sir Gâr wedi cadarnhau bod pennaeth ysgol gynradd Gymraeg wedi cael ei gwahardd o'i swydd.

Dywedodd yr awdurdod fod Catherine Lloyd-Jenkins wedi'i gwahardd fel prifathrawes Ysgol Gymraeg Ffwrnes, Llanelli.

Dyw'r cyngor heb gyhoeddi mwy o fanylion ac maen nhw'n dweud fod staffio yn fater i gorff llywodraethu'r ysgol.

Dywedodd y cyngor nad oedd hi'n briodol i wneud sylw pellach.