Hannah Mills yn ennill Pencampwriaeth y Byd yn Japan
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gymraes Hannah Mills, ynghyd ag Eilidh McIntyre o Loegr, wedi ennill y fedal aur ym Mhencampwriaeth Hwylio'r Byd yn Japan.
Cafodd y gystadleuaeth ei chynnal yn Enoshima, lle fydd y regata Olympaidd yn cael ei chynnal yn 2020.
Fe wnaeth y ddwy orffen yn y seithfed safle yn y ras 470 - roedd hynny un lle yn uwch na Ai Kondo Yoshida a Miho Yoshioka o Japan ac yn ddigon i gipio'r brif wobr.
Y pâr o Japan oedd yn fuddugol yn y gystadleuaeth y llynedd.
Hwn yw'r eildro i Mills gipio'r fedal aur ym Mhencampwriaeth y Byd.
Mae Mills a McIntyre eisoes wedi ennill yr hawl i gystadlu yn Tokyo 2020.
Fe wnaeth y ddwy ennill y fedal arian ym Mhencampwriaeth y Byd yn 2017 ac efydd y llynedd.
Yng Ngemau Olympaidd Rio yn 2016 fe wnaeth Mills gipio aur gyda'u chyn-bartner Saskia Clark.
Mills fydd yr hwylwraig Olympaidd mwyaf llwyddiannus pe bai hi'n sicrhau aur yn Tokyo.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Awst 2016