Peilot awyren gleider wedi marw

  • Cyhoeddwyd
damwain gleidiwrFfynhonnell y llun, AAIB
Disgrifiad o’r llun,

Mae swyddogion o'r AAIB yn ymchwilio i'r digwyddiad

Mae Swyddfa'r Crwner wedi cadarnhau fod peilot awyren gleider a blymiodd i'r ddaear yn Sir Fynwy ddiwedd Gorffennaf wedi marw o'i anafiadau.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i Glwb Gleidio De Cymru yn ardal Brynbuga ar 27 Gorffennaf ar ôl i'r awyren droi wyneb i waered wrth geisio codi i'r awyr.

Bu farw Steve Evans, 54 o ardal Glyn-nedd ar 1 Awst, yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd.

Dywedodd llefarydd ar ran yr uned sy'n ymchwilio damweiniau awyr - yr AAIB: "Mae'r AAIB wedi anfon arolygwyr i Sir Fynwy yn dilyn damwain glider ar 27 Gorffennaf.

"Yn drist iawn bu farw'r peilot yn ddiweddarach. Mae'r ymchwiliad yn parhau."