Y Bencampwriaeth: Derby County 0-0 Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Golwr Abertawe, Freddy Woodman yn arbed cic Martin Waghorn o'r smotynFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Golwr Abertawe, Freddy Woodman yn arbed cic Martin Waghorn o'r smotyn

Mae Abertawe yn dal heb golli ar ddechrau'r tymor newydd wedi gêm gyfartal, ddi-sgôr oddi cartref yn erbyn Derby County.

Fe wnaeth golwr yr Elyrch, Freddy Woodman arbed cic o'r smotyn gan Martin Waghorn tua diwedd yr hanner cyntaf, ac atal y gwrthwynebwyr rhag sgorio wedi'r egwyl.

Daeth Borja Bastón yn agos at roi mantais i Abertawe ond cafodd ei ergyd ei atal gan Kelle Roos, golwr Derby, ac roedd yna gyfleoedd hefyd tua diwedd y gêm i Nathan Dyer a Sam Surridge.

Fe roddodd y rheolwr, Steve Cooper gyfle cyntaf i Aldo Kalulu ers iddo ymuno â'r clwb ond bu'n rhaid iddo adael y maes hanner ffordd drwy'r ail hanner ar ôl cael anaf.