Rhestr detholion y byd: Cymru'n rhif un yn answyddogol

  • Cyhoeddwyd
Dathliadau ennill y Gamp Lawn yn 2019Ffynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Dathliadau ennill y Gamp Lawn yn 2019

Mae Cymru bellach yn rhif un, yn answyddogol, ar restr detholion rygbi'r byd ar ôl i Awstralia guro Seland Newydd ddydd Sadwrn.

Fe wnaeth y Crysau Duon golli eu lle ar frig y rhestr am y tro cyntaf mewn 10 mlynedd, yn dilyn y golled o 47-26 yn Perth.

Fe fydd Cymru ar frig y rhestr yn swyddogol ddydd Llun, os ydyn nhw'n curo Lloegr yn Twickenham ddydd Sul.

Dyma fyddai'r tro cyntaf i'r crysau cochion fod yn rhif un ar y rhestr detholion, ers cyflwyno'r system yn 2003.

Mae tîm Warren Gatland wedi ennill 14 gêm yn olynol - sy'n cynnwys trydedd Camp Lawn i'r gŵr o Seland Newydd ers iddo gymryd y llyw ar ôl Cwpan y Byd 2007.

De Affrica oedd y tîm diwethaf i fod uwchben Seland Newydd fel rhif un y byd nôl ym mis Tachwedd 2009.