Seiclwr, 30, wedi marw ar ffordd ger Dolgellau

  • Cyhoeddwyd
ArthogFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y seiclwr a'r car a oedd yn tynnu'r garafán yn teithio ar ffordd yr A493 yn Arthog

Mae seiclwr 30 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad ar ffordd ger Dolgellau brynhawn dydd Sul.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r A493 yn Arthog ychydig wedi 13:30 yn dilyn adroddiadau fod car a oedd yn tynnu carafán wedi taro seiclwr.

Er i'r seiclwr gael ei gludo mewn hofrennydd i ysbyty yn Stoke, bu farw yn ystod oriau mân fore Llun.

Mae'r heddlu yn apelio ar i unrhyw un a welodd unrhyw beth cyn y ddamwain, neu a welodd y seiclwr i gysylltu â nhw.