Beirniadu oedi mewn achos cam-drin plentyn

  • Cyhoeddwyd
Michael David JonesFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Michael David Jones feithrin perthynas gyda'r ferch 14 oed cyn mynd â hi yn ei gar

Mae barnwr wedi beirniadu Heddlu Gogledd Cymru am oedi am 18 mis cyn cyhuddo dyn o gam-drin rhywiol.

Mae'r dyn bellach wedi cyfadde' i berthynas rhywiol gyda merch 14 oed.

Yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Llun, cafodd Michael David Jones, 32 oed o Ddwyran ar Ynys Môn, ei garcharu am dair blynedd a phedwar mis.

Roedd Heddlu'r Gogledd wedi holi Jones am yr honiadau ym mis Tachwedd 2017, ond ni chafodd ei gyhuddo tan Mai eleni.

Dywedodd y Barnwr Huw Rees fod yr oedi yn "anfaddeuol".

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cael cais i ymateb.

'Difetha bywyd'

Clywodd y llys fod Jones wedi mynd â'r ferch yn ei gar i Gaernarfon, ac wedi cyflawni gweithred rywiol arni yng nghefn y car.

Dangosodd ffôn symudol y ferch sgwrs testun gyda Jones oedd yn dweud yn glir ei bod yn 14 oed ar y pryd. Roedd Jones yn 30.

Wrth roi tystiolaeth o du ôl i sgrîn, dywedodd y ferch - sydd bellach yn 16 oed - bod hynny wedi difetha'i bywyd ac achosi iddi hunan-niweidio.

"Chi oedd yr oedolyn - hi oedd y plentyn," meddai'r Barnwr Rees wrth Jones.

Cafodd gorchymyn atal niwed rhyw ei gyhoeddi yn erbyn Jones, a bydd rhaid iddo gofrestru fel troseddwr rhyw.