Staff ysbyty 'heb wrando' ar fam a gollodd ei phlentyn
- Cyhoeddwyd
Mae mam a gollodd ei phlentyn wrth roi genedigaeth wedi sôn am ei thorcalon a'i rhwystredigaeth am "nad oedd staff yr ysbyty yn gwrando arni".
Bu farw mab Kara Jones, Arthur Wyn Jones, wrth iddi hi roi genedigaeth yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin ar 13 Mawrth 2017.
Roedd Ms Jones, sy'n byw â chlefyd siwgr, wedi bod yn apelio ar feddygon i eni'r plentyn yn gynnar.
Mae adolygiad mewnol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, sydd wedi ei weld gan y BBC, wedi dod i'r casgliad fod nifer o gyfleoedd i gydnabod cymhlethdod y beichiogrwydd wedi eu colli, ac mae'n debygol fod hynny wedi cyfrannu at y farwolaeth.
Mae Ms Jones yn byw yn Nhre'r Ddol ger Aberystwyth, ac yn ystod ei beichiogrwydd roedd hi'n derbyn rhan o'i gofal yn Ysbyty Bronglais.
Ond oherwydd y clefyd siwgr, a'r angen i fynd i uned arbenigol, roedd rhaid iddi hi a'i phartner Sam Penfold deithio'n gyson i Ysbyty Glangwili.
O fewn ychydig fe ddechreuodd y ddau ofyn cwestiynau am safon y gofal.
"Doedd dim cliw gyda ni. Dim cliw beth oedd yn mynd i ddigwydd. Bob dydd, roeddwn i'n mynd nôl, ro'n nhw'n dweud, 'we're not sure about this, we're not sure'," meddai Ms Jones.
"Well if you're not sure... cael e mas, achos pa wahaniaeth mae dau ddiwrnod yn bola fi'n mynd i neud i'r babi? Os mae fe angen dod mas, wel der â fe mas.
"A ni wedi cael gwybodaeth nawr y bydde fe 'di bod yn iawn os bydde fe mas ar y pryd. Mae fe jest yn heartbreaking."
Cyfres o fethiannau
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn amlygu cyfres o fethiannau, yn eu plith, methiant ar fwy nag un achlysur i weithredu yn dilyn sgan annormal.
Roedd gan Kara bryderon penodol am yr arbenigwr oedd â chyfrifoldeb dros ei gofal yn ystod y cyfnod: "Yr unig consultant ar call oedd y boi 'ma. Ro'n i rili moyn iddo fe helpu babi bach fi.
"Ma' fe jest yn anodd meddwl fod rhywun oedd mewn sefyllfa lle allen nhw fod wedi helpu fe. Mae'n amlwg oedd intentions e i fod yn berson da neu bydde fe ddim ishe bod yn ddoctor, so pam odd e jest ffili helpu babi fi?"
Fe ddaeth ymchwiliad i'r casgliad bod rheolaeth y meddyg, Mr Treharne, o'i glaf wedi bod yn ddifrifol is na'r safon ddisgwyliedig. Cafodd Mr Treharne ddim ei ddiarddel o'i waith ond fe dderbyniodd rybudd ffurfiol.
Mae'r BBC wedi cysylltu â chyfreithwyr Mr Treharne ond doedden nhw ddim yn awyddus i wneud sylw.
Dywedodd Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda eu bod yn "awyddus i gynnig eu cydymdeimlad, ac ymddiheuro yn ddidwyll" i Ms Jones a'i theulu.
Arweiniodd ymchwiliad y Bwrdd Iechyd a'r Cyngor Meddygol cyffredinol at nifer o argymhellion i newid gweithdrefnau.
Mae hyfforddiant ychwanegol ar gyfer y tîm cyfan wedi ei gyflwyno drwy ardal y bwrdd iechyd cyfan.
A dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd iechyd eu bod nhw'n "awyddus i gynnig sicrwydd fod y bwrdd wedi gweithredu ar yr argymhellion".
'Dwi ddim yr un person'
Erbyn hyn mae Ms Jones wedi rhoi genedigaeth i ddau blentyn - Ralffi sy'n 21 mis oed, a Dyfi gafodd ei geni ym mis Ebrill - ond serch hynny, dyw'r ddau methu dygymod yn llawn â'r hyn ddigwyddodd.
Mae Ms Jones yn dioddef o PTSD ac yn cael hunllefau cyson, tra bod Mr Penfold yn teimlo bod ei gymeriad wedi trawsnewid yn llwyr.
"Dwi ddim yr un person. Roeddwn ni wedi 'neud yn dda yn y Brifysgol, yn Brif Fachgen yn Ysgol Penglais, ac roeddwn i wedi chwarae [pêl-droed] dros dîm dan 16 oed Cymru," meddai Mr Penfold.
"Ond nawr, dwi ddim yn hapus mewn llefydd gyda llawer o bobl. Dwi ddim yn sociable. Dwi ddim yn becso am ddim heblaw am y teulu. Dwi ddim yn gallu meddwl am waith... dyw e jest ddim yn digwydd. Dyw e ddim yn iach o gwbl."
Mae'r ddau bellach yn y broses o sefydlu ymddiriedolaeth er cof am eu mab gyda'r bwriad o gynnig cyfleoedd ym myd chwaraeon i blant.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mai 2018
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2017