Mwy o ddisgyblion yn pryderu am straen arholiadau

  • Cyhoeddwyd
straen

Mae 'na fwy a mwy o bobl ifanc yn cysylltu ag elusennau yng Nghymru dros bryderon am ganlyniadau arholiadau a phwysau gwaith.

Ers 2016, fe welodd Meic Cymru gynnydd o 40% mewn galwadau o'r fath, tra bod NSPCC Cymru wedi gweld cynnydd o 56% yn y nifer o sesiynau cwnsela maen nhw'n ei gynnig ers 2016.

Dywedodd llefarydd o NSPCC Cymru fod pwysau ar ysgolion i berfformio, a bod hynny'n cael sgil effaith ar ddisgyblion.

Mae un ferch - wnaeth ddioddef o broblemau iechyd meddwl yn ystod ei chyfnod ysgol - wedi dweud wrth raglen Newyddion 9 bod angen gwneud mwy i amlygu'r cymorth sydd ar gael i bobl ifanc.

Roedd Elen Jones yn ddisgybl blwyddyn 11 yn Ysgol Syr Thomas Jones yn Amlwch pan ddechreuodd deimlo'n isel ei hysbryd.

Wrth adolygu ar gyfer ei harholiadau TGAU - roedd hi'n teimlo dan bwysau mawr i berfformio a chyflawni'r gwaith i safon da.

O fewn ychydig fisoedd, roedd ei chyflwr wedi dirywio a'r pwysau gwaith bellach wedi datblygu'n iselder a gorbryder.

'Angen codi'r pwnc yn yr ysgol'

"Yn dechra' do'n i ddim yn deall - o'n i'n meddwl bod o'n hollol normal gan bo' fi dan lot o bwysa'," meddai'r ferch 18 oed o Amlwch.

"Ond wedyn oedd o fel bod o'n dal i ddirywio, ond do'n i methu gwneud dim byd am y peth.

"O'n i'n cau fy hun yn y llofft a ddim isho neud dim byd efo neb."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Elen wedi penderfynu ysgrifennu blog ar gyfer pobl eraill sydd wedi profi teimladau a symptomau tebyg iddi hi

"Dwi'n licio cal petha'n iawn yn y petha' dwi'n mwynhau 'neud," meddai," felly dwi'n teimlo bod o wedi cael effaith, a bod gwaith ysgol wedi bod yn trigger enfawr ar fy iechyd meddwl."

Wedi iddi ddweud wrth ei chariad a'i theulu bod rhywbeth yn bod, cafodd gynnig i dderbyn meddyginiaeth gwrth-iselder a'i rhoi ar restr aros i weld cwnselydd yn yr ysgol.

Er iddi orfod aros yn hir i gael gweld rhywun, mae hi'n canmol y gwasanaeth ac fe wnaeth hi barhau i dderbyn cymorth trwy gydol ei hamser yn y chweched dosbarth.

Mae ffigyrau diweddaraf sydd wedi dod i law Newyddion 9 yn awgrymu nad ydy profiadau Elen yn rhai unigryw.

Ar drothwy diwrnod canlyniadau Safon Uwch, mae Elen am weld mwy yn cael ei wneud i amlygu'r gefnogaeth sydd ar gael i ddisgyblion.

"Mae 'na gymorth ar gael yn yr ysgol - ond does 'na ddim digon o ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael i droi.

"Yn sicr, dyla'r pwnc cael ei godi'n fwy mewn ysgolion, yn enwedig yn ystod amser TGAU."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Sian Regan wedi gweld cynnydd yn nifer y galwadau gan bobl ifanc

Hyd yn hyn, mae'r elusen Meic Cymru wedi derbyn mwy o alwadau na wnaethon nhw trwy gydol 2016.

Mae'r NSPCC a Childline hefyd yn cynnig sesiynau cwnsela i blant a phobl ifanc sy'n teimlo dan bwysau gwaith ag arholiadau.

Ers y llynedd, maen nhw wedi gweld cynnydd o 16% yn y sesiynau yma - a chynnydd o 56% ers 2016.

"Mae pobl ifanc yn dweud lot o resymau i ni," meddai Sian Regan o Meic Cymru.

Eglurodd fod pobl ifanc yn poeni eu bod nhw am "adael eu rhieni i lawr, a'u hathrawon".

"Maen nhw'n poeni na fyddan nhw'n cael y graddau maen nhw angen cael i fynd i'r brifysgol.

"Ni'n gwybod bod y farchnad swyddi a phrifysgol mor gystadleuol erbyn hyn - ac mae pobl ifanc yn teimlo bod eu canlyniadau nhw nawr yn mynd i siapio eu dyfodol nhw.

"'Da ni fan hyn i ddweud dydyn nhw ddim o angenrheidrwydd."