'Angen gwaredu blychau ffôn Trebiwt oherwydd cyffuriau'

  • Cyhoeddwyd
blwch ffôn

Mae ymgyrchwyr am gael gwared ar flychau ffôn cyhoeddus o gymuned yng Nghaerdydd, gan honni eu bod yn cael eu defnyddio ar gyfer cymryd a delio cyffuriau.

Mae dau eisoes wedi cael eu tynnu o Drebiwt ond mae cynghorydd, preswylwyr ac arweinwyr crefyddol yn dweud y dylai'r lleill fynd hefyd.

"Ni fyddai'n datrys y problemau yma ond byddai'n un cam bach," meddai'r Parchedig Dean Atkins, o Eglwys y Santes Fair.

Dywedodd BT nad oes ganddyn nhw unrhyw gynlluniau i gael gwared â mwy o flychau.

Mae Jeffrey Gabb yn byw yn agos at un o'r blychau ffôn a dywed bod pobl yn gweld cymryd cyffuriau yn rheolaidd yno.

"Rwyf wedi bod i lawr yma ar hyd fy oes ac mae hyn cynddrwg ag yr wyf wedi'i weld," meddai.

"Mae'n flwch ffôn ar gyfer delio. Gall ddigwydd unrhyw adeg o'r dydd.

"Mae rhywun yn mynd i farw i lawr yma'n hwyr neu'n hwyrach."

Faint o ddefnydd ffonio?

Dywedodd y cynghorydd ward lleol, Saeed Ebrahim: "Diolch byth, mae dau flwch wedi cael eu tynnu yn ddiweddar ac rydyn ni'n edrych i gael gwared â'r gweddill yn y dyfodol agos."

Dywedodd y Parchedig Atkins nad oedd y blychau ffôn "yn cael eu defnyddio llawer" i bobl wneud galwadau.

"Mae BT wedi gwrthod dweud wrthym faint maen nhw'n cael eu defnyddio oherwydd mae'n wybodaeth gyfrinachol," meddai.

"Maen nhw wedi cyfaddef ei fod, mewn gwirionedd, yn dod â refeniw da o hysbysebu felly, mewn gwirionedd, dim ond hysbysfyrddau ydyn nhw, nid ffonau ffôn."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Saeed Ebrahim ei fod wedi gweld pobl yn chwistrellu eu hunain gyda chyffuriau yn y blychau

Dywedodd BT fod dau flwch ffôn wedi'u tynnu ger Sgwâr Loudoun ac Alice Street oherwydd dirywiad yn y galwadau a wnaed yn ystod y degawd diwethaf.

"Er bod trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn fater i'r heddlu, mae BT yn gweithio'n rheolaidd gyda grwpiau ac awdurdodau cymunedol lleol i fynd i'r afael ag unrhyw bryderon," meddai.

Dywedodd yr arolygydd plismona lleol, Sohail Anwar, fod yr heddlu'n "deall fod delio a chymryd cyffuriau yn gonsyrn mawr i bobl leol" ac i'r heddlu.

"Rydym yn gweithio'n galed iawn pob dydd i daclo'r mater," meddai.

Ychwanegodd y dylai trigolion yr ardal barhau i fod yn "llygaid ac yn glustiau" i'r heddlu yn y gymuned, a chysylltu drwy ffonio 101 neu drwy fynd ar wefan Heddlu'r De.