Corbyn: Brexit di-gytundeb i wneud 'difrod enfawr' i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Jeremy Corbyn

Byddai Brexit heb gytundeb yn achosi "difrod enfawr" i economi Cymru, yn ôl arweinydd y Blaid Lafur.

Ar ymweliad â Machynlleth ddydd Gwener, dywedodd Jeremy Corbyn ei fod yn "anodd iawn, iawn" gweld sut fyddai economi Cymru yn parhau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.

Ychwanegodd y byddai Cymru wastad angen perthynas fasnachu agos gyda gwledydd Ewropeaidd eraill.

Cyn ei ymweliad, roedd Mr Corbyn wedi sôn am gynlluniau ei blaid am "chwyldro diwydiannol gwyrdd" i weddnewid cymdeithas a chreu swyddi safon uchel yng Nghymru.

'Dros y dibyn ar 31 Hydref'

Dywedodd Mr Corbyn bod natur busnesau Cymru yn golygu bod angen perthynas fasnach agos.

"Mae'n mynd i fod yn anodd iawn, iawn i weld sut all economi Cymru barhau gyda gyda Brexit di-gytundeb," meddai.

"Mae'r materion cyd-ddibyniaeth mewn diwydiant yng Nghymru - Airbus, Ford, nifer o gwmniau eraill gydag Ewrop, yn ogystal â chynnyrch amaethyddol - yn golygu bod rhaid cael perthynas fasnachu agos iawn gydag Ewrop.

"Y perygl ydy ar hyn o bryd bydd Boris Johnson yn mynd â ni dros y dibyn ar 31 Hydref a bydd y niwed i economi Cymru yn enfawr."

Disgrifiad o’r llun,

Bu Jeremy Corbyn yn ymweld â Chanolfan y Dechnoleg Amgen ym Machynlleth ddydd Gwener

Ond aeth Mr Corbyn ddim mor bell â chytuno gyda Phrif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, sy'n credu y byddai Brexit o unrhyw fath yn drychinebus i Gymru.

"Aros yn erbyn dim cytundeb - fe fyddwn ni'n cefnogi aros," meddai.

Ond pan ofynnwyd iddo a fyddai Llafur yn cefnogi aros yn hytrach na chytundeb Brexit, dywedodd y byddai hynny'n ddibynnol ar yr opsiynau eraill.

Fe gyhuddodd Mr Corbyn arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Jo Swinson, o beidio parchu Llafur fel yr wrthblaid swyddogol.

Mae Ms Swinson wedi gwrthod cynnig Mr Corbyn i'w gefnogi fel prif weinidog dros dro pe byddai Llafur yn ennill pleidlais o ddiffyg hyder yn y llywodraeth.

'Chwyldro'

Cyn yr ymweliad, dywedodd Mr Corbyn y byddai cynlluniau ei blaid am "chwyldro diwydiannol gwyrdd" yn gweddnewid cymdeithas a chreu swyddi.

Fe wnaeth arweinydd Llafur hefyd ail-bwysleisio cefnogaeth ei blaid ar gyfer cynlluniau fel morlyn llanw Bae Abertawe, gan gyhuddo Llywodraeth y DU o fethu mynd i'r afael â newid hinsawdd.

Dywedodd Mr Corbyn pe bai Llafur mewn pŵer yn San Steffan y byddai'n dilyn esiampl Llywodraeth Cymru a chyhoeddi argyfwng hinsawdd.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Byddai Llywodraeth Lafur yn San Steffan yn cefnogi cynllun morlyn llanw Bae Abertawe

Dan gynlluniau ynni Llafur byddai'r National Grid yn cael ei gymryd i ddwylo cyhoeddus a byddai paneli solar yn cael eu rhoi ar bron i ddwy filiwn o gartrefi.

Yn siarad cyn ei ymweliad â Chanolfan y Dechnoleg Amgen, dywedodd Mr Corbyn y byddai polisi amgylcheddol Llafur "o fudd i bobl dosbarth gweithiol gan dorri biliau ynni, creu swyddi o safon mewn diwydiannau gwyrdd, newydd a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd".

Wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi argyfwng hinsawdd ym mis Ebrill, fe wnaeth Mr Corbyn arwain dadl yn Nhŷ'r Cyffredin yn galw am wneud cyhoeddiad tebyg ar draws y DU gyfan.