Gwelliant eto ym mherfformiad TGAU Cymru

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Disgyblion Cymru yn dathlu canlyniadau TGAU

Mae perfformiad TGAU wedi gwella ar draws Cymru o gymharu â'r llynedd.

Llwyddodd 62.8% i ennill graddau rhwng A*-C tra bod y rhai gafodd y graddau uchaf yn parhau'n sefydlog.

Mae'r nifer gafodd graddau A*-C wedi cynyddu 1.2% o gymharu â 2018 - dyna'r un lefel ag yn 2017 - ond dyma un o'r perfformiadau gwaethaf yn ystod y degawd diwethaf.

Roedd 'na ostyngiad o 0.1% yn y nifer gafodd y graddau uchaf, ond mae'r rheoleiddiwr cymwysterau yn dweud gallai canlyniadau amrywio o ysgol i ysgol.

Mae cyfanswm y ceisiadau wedi cynyddu 4.5% i 303,635 eleni ac mae'r canlyniadau heddiw yn nodi diwedd proses o gyflwyno 29 o gymwysterau TGAU newydd ers 2015.

Kirsty Williams
Disgrifiad o’r llun,

Y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams yn ymweld ag Ysgol y Brenin Harri VIII yn Y Fenni ddydd Iau

Mae'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams wedi llongyfarch disgyblion Cymru a diolch i'w hathrawon am eu gwaith caled "i gyflawni'r cymwysterau newydd hyn".

"Heddiw rydym wedi gweld gwelliant mewn perfformiad cyffredinol ledled Cymru," meddai.

"Llynedd gwelsom gynnydd dramatig o 50% yn y niferoedd ar gyfer TGAU gwyddoniaeth.

"Rwy'n falch o weld bod niferoedd a chanlyniadau yn parhau i gynyddu, gyda mwy o ddisgyblion yn ennill graddau A*-C, a mwy yn ennill y graddau uchaf mewn Bioleg, Cemeg a Ffiseg.

"Mae'r cynnydd hwn yn nifer y dysgwyr sydd yn sefyll arholiadau gwyddoniaeth yn golygu bod mwy o bobl ifanc yn derbyn cymwysterau sy'n arwain at fwy o gyfleoedd ar gyfer astudio gwyddoniaeth ymhellach.

"Mae hefyd yn paratoi'r ffordd ar gyfer gwyddonwyr Cymru yn y dyfodol."

Grey line

Beth sy'n newydd eleni?

Mae eleni yn nodi diwedd proses o gyflwyno 29 o gymwysterau TGAU newydd ers 2015.

Busnes, Cyfrifiadureg, Dylunio a Thechnoleg, Hanes, Astudiaethau Cyfryngau, Astudiaethau Crefyddol a Chymraeg Ail Iaith oedd y saith pwnc olaf i gael eu diwygio.

Bydd canlyniadau'r cyrsiau yma'n cael eu cyhoeddi am y tro cyntaf ddydd Iau.

Disgrifiad,

Mae Emyr George o gorff Cymwysterau Cymru yn disgwyl gweld gwahaniaeth yn y canlyniadau Cymraeg Ail Iaith eleni

Mae'r cymhwyster Cymraeg Ail Iaith newydd yn disodli'r cwrs llawn blaenorol, y cwrs byr a'r TGAU cymhwysol.

Does dim gwaith cwrs ar gyfer y cymhwyster newydd, yn hytrach mae mwy o bwyslais ar sgiliau siarad a gwrando gyda disgyblion yn gorfod dangos eu gallu i ymateb i sgwrs yn naturiol.

Yn ôl Cymwysterau Cymru, mae'r newid yn y nifer a'r math o ddisgyblion sydd wedi sefyll yr arholiad ynghyd â newidiadau i'r asesiadau yn debygol o effeithio ar ganlyniadau.

Pam bod cynnydd mewn ceisiadau yng Nghymru?

Mae cynnydd o 0.7% wedi bod ym mhoblogaeth yn yr oedran yma.

Mae hefyd yn debygol bod y newidiadau i fesuriadau perfformiad wedi cael effaith.

Canlyniad cyntaf myfyriwr yn unig sy'n cyfri tuag at gyrhaeddiad yr ysgol bellach.

Mae'r datblygiad yma'n golygu bod ceisiadau blwyddyn 11 ar gyfer nifer o bynciau wedi codi ac mae disgwyl i hyn gael effaith ar ganlyniadau.

Oes modd cymharu canlyniadau yng Nghymru â gweddill Prydain?

Mae cymharu Cymru â gweddill Prydain yn fwyfwy anodd.

Er bod Cymru wedi cadw'r strwythur A*- G mae Lloegr wedi mabwysiadu system raddio 9-1. Yn y cyfamser, mae gradd C* newydd yn cael ei chyflwyno yng Ngogledd Iwerddon am y tro cyntaf.

Mae gan Yr Alban system wahanol ar gyfer arholiadau ac mae disgyblion yno eisoes wedi derbyn eu canlyniadau ddechrau Awst.