Athrawon Ysgol Bodedern â diffyg hyder yn eu pennaeth

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Uwchradd Bodedern
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Ysgol Uwchradd Bodedern bron i 700 o ddisgyblion

Mae athrawon yn un o ysgolion uwchradd Ynys Môn wedi pasio pleidlais o ddiffyg hyder yn y pennaeth, ac wedi galw ar gadeirydd y llywodraethwyr i ymddiswyddo.

Roedd staff wedi gwneud nifer o gwynion ynglŷn â Catrin Jones Hughes, pennaeth Ysgol Uwchradd Bodedern, mewn llythyr at y llywodraethwyr a'r awdurdod addysg.

Yn y llythyr, maen nhw'n dweud bod y "sefyllfa yma yn cael effaith negyddol ar les y staff ac effaith andwyol ar forâl yn yr ysgol, sydd yn barod yn eithriadol o isel".

Maen nhw hefyd yn honni fod y sefyllfa'n cael "effaith negyddol" ar ddisgyblion ac ar safonau'n gyffredinol o fewn yr ysgol.

Cafodd y llythyr ei arwyddo gan dros 60% o staff dysgu'r ysgol.

Nid oes modd datgelu beth yn union ydy'r cwynion ar hyn o bryd.

Mater 'cyfrinachol a chyfredol'

Mae Ms Hughes wedi bod yn absennol o'r ysgol am gyfnod, ond mewn datganiad dywedodd ei bod hi "fel pennaeth yr ysgol yn edrych ymlaen yn eiddgar i ailafael yn yr awenau wedi cyfnod o salwch a phrofedigaeth deuluol".

Mae'r staff bellach wedi ysgrifennu ail lythyr yn galw ar gadeirydd y llywodraethwyr, y Cynghorydd Ken Hughes, i ymddiswyddo oherwydd yr hyn maen nhw'n ei ddisgrifio fel ei gefnogaeth at y pennaeth.

"Rydym yn deall fod hyn yn ddatganiad difrifol, ac nid ydym wedi gwneud y penderfyniad yma'n hawdd," meddai'r llythyr.

Dywedodd Mr Hughes nad oedd yn dymuno gwneud unrhyw sylw gan fod y mater yn "gyfrinachol ac yn gyfredol", ond dywedodd ei fod yn parhau i fod yn gadeirydd y llywodraethwyr.

Fe wnaeth Cyngor Ynys Môn wrthod gwneud unrhyw sylw ynglŷn â'r sefyllfa ym Modedern.

Ychwanegodd llefarydd: "Fel awdurdod addysg cyfrifol, rydym yn barod i roi cefnogaeth ac arweiniad i ysgolion y sir os yw'r galw'n codi."