Megan yn marchogaeth o amgylch y byd

  • Cyhoeddwyd

Rhwng 2008 a 2017, treuliodd Megan Knoyle Lewis, o Bumsaint, Sir Gâr, fisoedd ar y tro yn marchogaeth o amgylch y byd - gan ddod y person cyntaf i wneud hynny.

Ar ôl sgwrsio gydag Aled Hughes ar Radio Cymru yn ddiweddar, mae hi wedi rhannu rhai o'i lluniau gwych o'i hanturiaethau ar gefn ei cheffyl gyda Cymru Fyw:

Ffynhonnell y llun, Megan Knoyle Lewis

 hithau'n nesáu at oed ymddeol, roedd Megan, sydd wedi bridio merlod ers blynyddoedd, yn chwilio am her newydd.

Felly beth arall i'w wneud ond marchogaeth o China i Lundain?!

"Ers pan o'n i'n ifanc, dwi wastod wedi bod mo'yn gneud reid hir," meddai Megan. "Ond wrth gwrs, ges i deulu, a doedd dim cyfle i fi wneud hynny. Ond pan adawodd y plant gartre', roedd popeth yn wahanol.

Ffynhonnell y llun, Megan Knoyle Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Megan wedi cyrraedd Llundain - tybed ydyn nhw'n derbyn ceffylau ar y trên tanddaearol?

"Ar y pryd, roedd y gemau Olympaidd yn Beijing a Llundain, a ges i'r syniad o farchogaeth o un i'r llall, a dyna 'nes i. Cychwynais i ar arfordir China, ar ddiwedd Wal Fawr China."

Gorffennodd ei thaith yn Llundain ym mis Awst 2012, gan gyflwyno baner Olympaidd yr oedd hi wedi ei dderbyn ar ddechrau ei thaith yn China, i'r British Equestrian Federation, fel symbol o'i thaith enfawr.

Ond wedi cyrraedd adref i Sir Gâr, cododd syniad arall - beth am barhau â'r daith a theithio ar draws Iwerddon ac yna Gogledd America?

A dyna fu.

Penderfynodd godi arian i elusen y tro hwn, ac fe lwyddodd i godi dros £4,000 dros y bedair mlynedd nesaf.

Pan gyrhaeddodd arfordir gorllewinol America, ger San Francisco, daeth Megan y person cyntaf i farchogaeth o gwmpas y byd.

"Cymerodd y daith tua 8 mlynedd i gyd. Torrais i'r daith i adrannau o tua tri mis - o'n i'n medru gwneud tua 1,000 o filltiroedd mewn tua tri mis. Fel arfer, o'n i'n marchogaeth tua 20 milltir y dydd."

Ffynhonnell y llun, Megan Knoyle Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Partner teithio ffyddlon Megan, Lady, ar ffin Califfornia, bron ar ddiwedd y daith epig o amgylch y byd

O broblemau fisa a chroesi ffiniau gyda cheffylau, i gwrdd â phobl diddorol a gweld golygfeydd anhygoel, roedd taith Megan yn llawn da a drwg.

"Roedd llawer o set-backs," meddai. "Y peth gwaetha' oedd yn China, oherwydd syrthiais i oddi ar fy ngheffyl, a torrais i fy collarbone a chwech o asennau. Roedd rhaid i mi gael llawdriniaeth yn Beijing, a mynd adra am dri mis i adfer.

"Ond roedd llawer o uchafbwyntiau hefyd. Dwi'n credu mai'r peth gorau i mi oedd pan o'n i'n marchogaeth ar hyd rhan o'r silk route, trwy geunant yn y Tien Shan - y Mynyddoedd Nefol.

"Oedd e'n llwybr hen iawn, a'r unig beth welais i oedd defaid gwyllt Marco Polo, sy'n brin iawn, iawn a rhai bugeiliaid. Roedd e'n brofiad anhygoel."

Ffynhonnell y llun, Megan Knoyle Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Megan (dde) gyda Rowena Gulland, ei chyfnither, yn dechrau'r siwrne ger Wal Fawr China yn 2008 ar gefn Bei Bei a Jing Jing, eu ceffylau am ran gyntaf y daith

Wrth gwrs, anodd fyddai cludo ceffylau hanner ffordd ar draws y byd i gymryd rhan mewn taith o'r fath, felly defnyddiodd Megan nifer o wahanol geffylau, ac roedd hi bob amser yn ceisio defnyddio rhai lleol.

"Yn China, defnyddiais i geffylau Shandan - mae rhain yn frîd tenau, milwrol, sy'n cael eu bridio ar gyfer y fyddin.

"Do'n i ddim yn gallu cymryd y ceffylau mas o China, felly yn Kazakhstan prynes i geffyl o ladd-dy, achos mae llawer o bobl yn Kazakhstan yn byta ceffylau!

Ffynhonnell y llun, Megan Knoyle Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Megan a Zorbee - y ceffyl a gafodd ei achub o ladd-dy - hanner ffordd rhwng Shubarshi a Bayganin yn Kazakhstan - taith 2-3 diwrnod i unrhyw gyfeiriad

"Yn Hwngari, prynais i geffyl Shagya - mae hwn hefyd yn frîd milwrol. Reidiais i e i Lundain, ac wedyn adre' i Sir Gâr, ac ar hyn o bryd mae e adre' ar fy maes.

"Wedyn yn America, prynes i ferlyn Newfoundland - Lady o'dd ei henw hi. Hi oedd fy hoff geffyl, 'wi'n credu - roedd ganddi bersonoliaeth caredig."

Ffynhonnell y llun, Lynn a Chad Hanson
Disgrifiad o’r llun,

Megan yn marchogaeth Lady yn Wyoming, ac yn tynnu Mo, a oedd yn cario'r bagiau

Ynghyd â'r ceffylau, roedd gan Megan gwmni am rannau o'r daith. Roedd ganddi dîm yn marchogaeth gyda hi yn China, a cherbyd cymorth wrth iddi groesi Ewrasia. Bu perthynas iddi, Rowena, hefyd yn gwmni iddi ar lawer o'r siwrne.

Yng ngogledd America, roedd yn bennaf ym marchogaeth ar ei phen ei hun ar gefn Lady, ond am 2,000 o'r 5,000 milltir ar draws Gogledd America, roedd ganddi geffyl arall yn gwmni, sef Mo, a oedd yn cludo'i bagiau a'i heiddo, fel pabell, sach gysgu, offer coginio, bwyd sych, dillad a gliniadur.

Roedd pawb yr oedd hi'n dod ar eu traws yn hapus i gael sgwrs, meddai Megan - a nifer yn fodlon rhoi bwyd iddi a lle i aros.

"Yn China, o'n i'n cysgu ar ffermydd a gwestai bach, ac yn Kazakhstan, defnyddiais i babell," eglurodd.

"Yn America, o'n i mewn pabell weithiau, ond cnociais i ar ddrysau pobl ar y ffordd. Roedd llawer o bobl yn gofyn i mi aros gyda nhw."

Ffynhonnell y llun, Megan Knoyle Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Megan yn cysgu ble bynnag roedd hi'n gallu ei gael - gyda rhai lleoliadau yn fwy anarferol na'i gilydd!

Felly fyddai Megan yn gwneud taith o'r fath eto?

"Drwy wneud y daith yma, gwireddais freuddwyd roedd gen i o farchogaeth o amgylch y byd. Oedd, roedd e'n anodd iawn, yn enwedig oherwydd problemau a gododd o deithio gyda cheffylau, faint o gynllunio oedd angen ei wneud a'r rhwystrau 'nes i eu hwynebu.

"Ond roedd yna gymaint o adegau gwych, ac ar y cyfan, cefais i lawer mas o'r profiad.

"Gan mod i bellach yn 70 oed, a'i fod wedi cymryd rhai blynyddoedd i mi, dydw i ddim yn gweld fy hun yn gwneud unrhyw beth cweit ar y maint yma eto, yn enwedig gan fy mod i'n brysur iawn ar hyn o bryd yn ceisio ysgrifennu am y daith yma gyntaf!"

Ffynhonnell y llun, Megan Knoyle Lewis

Mae Megan wedi ysgrifennu llyfr - In the Shadow of the Great Wall - am ran gyntaf ei thaith, o ddechrau i ddiwedd Wal Fawr China

Hefyd o ddiddordeb: