Swyddi newydd i Robert Page a Paul Bodin gyda Chymru

  • Cyhoeddwyd
Robert Page a Paul BodinFfynhonnell y llun, Huw Evans/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Robert Page yn cymryd rôl gyda'r tîm cyntaf, a Paul Bodin gyda'r tîm dan-21

Mae'r cyn-chwaraewr Paul Bodin wedi cael ei gyhoeddi fel rheolwr newydd tîm dan-21 Cymru, wedi i Robert Page ymuno â hyfforddwyr y tîm cyntaf.

Bydd Page yn ymuno â Giggs a'r is-reolwr, Albert Stuivenberg, fel hyfforddwr ar gyfer y tîm cenedlaethol, gan ddechrau gyda'r gemau yn erbyn Azerbaijan a Belarws fis nesaf.

Daw'r newyddion wedi i Osian Roberts adael y tîm hyfforddi er mwyn cymryd rôl fel cyfarwyddwr technegol tîm cenedlaethol Moroco.

Mae Paul Bodin wedi cael dyrchafiad o rôl y rheolwr dan-19 i'r un swydd gyda'r tîm dan-21, cyn i'r garfan honno ddechrau eu hymgyrch i gyrraedd Euro 2021 ym mis Medi.

Bydd y tîm dan-21 yn wynebu Gwlad Belg a'r Almaen - y ddwy ar y Cae Ras yn Wrecsam - ar 6 a 10 Medi.

Rheolwr presennol y garfan dan-17, Robert Edwards, fydd rheolwr newydd y tîm dan-19, gyda rheolwr presennol y garfan dan-15, Richard Williams yn camu i'r tîm dan-17.