Hyfforddi ci i helpu merch wyth oed â'i diabetes
- Cyhoeddwyd
Pan welwch chi Ellie May Hodges yn chwarae gyda'i labrador melyn, Lilly, fe welwch chi fod ganddyn nhw berthynas go arbennig.
Y wefr yn llygaid y ferch wyth oed sy'n dangos hynny.
Ac ers i Lilly symud i'w cartref yn Lloc ger Treffynnon, Sir y Fflint, mae hyder Ellie May wedi cynyddu'n aruthrol, yn ôl ei theulu.
Y rheswm am hynny yw mai pwrpas Lilly yw helpu'r ferch i ymdopi â chyflwr diabetes math un.
Ar hyn o bryd, yno i gynnig cysur a chwmni i Ellie May mae Lilly - ac mae hynny'n gwneud gwahaniaeth, yn ôl Megan, ei chwaer, sy'n 10 oed.
"Mae wedi rhoi lot o hyder iddi," meddai Megan.
"Er enghraifft, mae gen fy anti i fferm, a phan oedd yr ieir allan, roedd [Ellie May] yn dweud 'Na, dwi ddim yn dod allan o'r car nes bod rhywun yn cario fi'.
"A hefyd gyda fy nghi a fy ngheffylau - rŵan mae hi'n mynd â fy nghi i am dro pan dwi'r reidio'r ceffylau, ac mae hi'n dod i bigo pŵ'r ceffylau efo fi hefyd!"
Beth yw Diabetes Math Un?
Cyflwr lle nad ydy'r corff yn gallu cynhyrchu inswlin, yr hormon sy'n rheoli lefel siwgr yn y gwaed;
Mae'n rhaid i ddioddefwyr reoli'r lefel siwgr drwy bigiadau neu bwmp;
Mae'n effeithio ar 19,000 o bobl yng Nghymru;
Ymhlith y symptomau mae blinder, syched, colli pwysau a phroblemau golwg;
Nid Diabetes Math Un, ond Diabetes Math Dau sy'n gysylltiedig â ffactorau fel gordewdra ac oedran. Mae Math Dau yn llawer mwy cyffredin.
Bwriad y teulu ydy hyfforddi Lilly i fod yn gi canfod meddygol, fydd yn gallu goruchwylio lefelau siwgr Ellie May pan fo'r rheiny'n isel neu'n uchel.
Mae disgwyl i hynny ddigwydd pan fydd y ci, sydd yn wyth mis oed ar y funud, yn flwydd.
Bydd yn rhaid i Ellie May a'i mam, Georgina, aros gyda'r ci yng Nghroesoswallt am gyfnod er mwyn ei hyfforddi'n iawn.
"Bydd yn dod â chymaint o dawelwch meddwl i'r teulu cyfan o wybod bod yna rywun yno yn ei gwylio," meddai Georgina.
Mae'r teulu'n cynnal sioe cŵn ym mis Medi er mwyn codi arian i elusennau sy'n cefnogi cleifion diabetes ac yn hyfforddi'r cŵn arbenigol.
Mae gan Lilly'r ci ychydig o daith cyn y bydd hithau'n gallu goruchwylio iechyd Ellie May bob dydd a nos - ond mae hi eisoes wedi gwneud byd o wahaniaeth i'r ferch wrth iddi ddelio â'r cyflwr yn ei bywyd bob dydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Awst 2019