Galw i wneud holl arholiadau yn ddigidol yn y dyfodol

  • Cyhoeddwyd
Plant ar dablediFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae arholiadau'n mynd yn groes i'r ffordd mae pobl ifanc yn byw eu bywydau pob dydd, medd Guto Aaron

Mae angen i arholiadau TGAU a Safon Uwch fod yn gwbl ddigidol yn y dyfodol er mwyn adlewyrchu'r ffordd mae pobl ifanc yn byw eu bywydau, yn ôl arbenigwr.

Dywedodd yr hyfforddwr technoleg Guto Aaron o gwmni TWT 360, nad yw'r ffordd draddodiadol y mae'r arholiadau yn cael eu cynnal yn gweddu i'r byd modern.

Ychwanegodd Mr Aaron ei fod yn mynd yn groes i'r ffordd mae pobl ifanc bellach yn adolygu, dysgu ac yn byw eu bywydau pob dydd.

Dywedodd Cymwysterau Cymru ei bod eisoes yn ystyried sut y mae angen i gymwysterau newid er mwyn cefnogi'r cwricwlwm newydd.

Yr arbenigwr digidol, Guto Aaron
Disgrifiad o’r llun,

Mae newid yn anorfod medd yr arbenigwr digidol, Guto Aaron

"Yn y tymor canolig i hir, mae angen i ni symud," meddai Mr Aaron, sydd hefyd yn dysgu yn Ysgol Bro Sannan yn Sir Caerffili.

"Dydy o ddim yn mynd i fod yn gam hawdd nac yn rhywbeth all gael ei wneud y flwyddyn nesaf, ond mae'n deg gofyn bellach pam ein bod yn gofyn i blant eistedd lawr am dair awr efo beiro a phapur pan fyddai'n rhywbeth fydden ni ddim yn gwneud yn ein bywyd proffesiynol.

"Pam y'n ni'n disgwyl rhywbeth gwahanol gan y plant?"

'Gorfod digwydd'

Mae Mr Aaron yn cydnabod y bydd angen gwaith paratoi trylwyr cyn y gellir cymryd y cam, er mwyn cael trefniadau mewn lle pe bai trafferthion technegol yn digwydd fel toriadau yn y cyflenwad trydan.

"Felly cyn symud at y digidol mae angen creu system gyda lot o fail safes ynddo," meddai.

"Hynny yw, os ydy Wi-Fi yr ysgol i lawr neu os oes toriad pŵer hanner ffordd drwy'r arholiad, beth sy'n digwydd wedyn?

"Ond ydy e'n gorfod digwydd? Ydy. Fel 'ma mae'r byd yn mynd ac er bod sgwennu yn bwysig, mae'n rhaid i ni o leiaf allu rhoi'r dewis i blant ateb yn ddigidol."

Grey line

'Technoleg wedi dod mor bell'

Gwion o Ysgol Plasmawr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwion o blaid newid y drefn draddodiadol

Cafodd disgyblion fel Gwion o Ysgol Plasmawr yng Nghaerdydd eu geni i fyd digidol, ac yn aml maen nhw'n defnyddio dyfeisiau neu gyfrifiaduron i ddysgu ac adolygu.

"Fi'n credu dylen ni newid pethe achos mae technoleg wedi dod mor bell nawr i wneud ein bywydau yn haws, ond mae addysg dal tu ôl iddi gyda thechnoleg," meddai.

"'Ni dal yn gorfod gwneud pethe ar bapur a ddim yn defnyddio cyfrifiaduron ble gallwn ni."

Isabella o Ysgol PLasmawr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Isabella yn hapus i ddefnyddio papur a beiro

Er hynny mae Isabella o Ysgol Plasmawr yn hapus i ddefnyddio papur a beiro tra'n adolygu a thra'n sefyll yr arholiadau.

"Mae pawb yn gwybod sut i ysgrifennu, ac yn fy marn i mae'n haws i ysgrifennu popeth mas," meddai.

"Os fydden i'n teipio, bydden i'n meddwl amdano fe gormod, ac yn stopio ac mae hynny'n cymryd lan llawer o amser, a does dim llawer o amser gyda ni mewn arholiad."

Grey line

Dywedodd prif weithredwr rheoleiddwyr arholiadau Cymru - Cymwysterau Cymru - eu bod eisoes yn ystyried sut y mae angen i gymwysterau newid er mwyn cefnogi cwricwlwm newydd Llywodraeth Cymru.

Ychwanegodd Philip Blaker eu bod am weld arholiadau yn gwneud y defnydd gorau o dechnoleg yn y dyfodol.

Dywedodd corff arolygu CBAC ei fod wedi "ymrwymo i ehangu'r ffordd yr ydym yn cynnig ein hasesiadau digidol".