Cyhoeddi enw prif weithredwr newydd Cyngor Môn

  • Cyhoeddwyd
Annwen MorganFfynhonnell y llun, Cyngor Môn
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Annwen Morgan yn olynu Dr Gwynne Jones fel prif weithredwr

Mae Cyngor Môn wedi cyhoeddi mai Annwen Morgan yw prif weithredwr newydd yr awdurdod.

Mae Ms Morgan ar hyn o bryd yn gweithio fel dirprwy brif weithredwr a bydd hi'n dechrau ar ei swydd newydd ym mis Hydref gan olynu Dr Gwynne Jones.

Dechreuodd Ms Morgan ei gyrfa gyda Chyngor Môn ym 1983 fel athrawes Gymraeg yn Ysgol Uwchradd Bodedern.

Daeth yn bennaeth ar yr ysgol yn 2007 ac yna'n brif weithredwr cynorthwyol gyda'r cyngor sir yn 2016.

'Gwneud fy ngorau'

Yn dilyn ei phenodiad, dywedodd Ms Morgan: "Mae'n bleser ac yn anrhydedd i gael fy mhenodi i rôl Prif Weithredwr Cyngor Ynys Môn.

"Edrychaf ymlaen at adeiladu ar waith rhagorol fy rhagflaenydd, Dr Gwynne Jones, a pharhau i weithio â chydweithwyr a phartneriaid mewn cymunedau lleol ac ar draws pob sector o gymdeithas er mwyn darparu'r gorau i Ynys Môn.

"Mae llywodraeth leol yn wynebu heriau sylweddol o ran cyllid yn y dyfodol ond rwy'n awyddus i ddechrau ar y gwaith ac i wneud fy ngorau ar gyfer pobl Ynys Môn."