Carcharu dyn am werthu cyffuriau ecstasi i ferch

  • Cyhoeddwyd
Michael IannucciFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth yr heddlu ganfod 1,403 o dabledi MDMA yn nhŷ Michael Iannucci

Mae gwerthwr cyffuriau o'r Barri wedi ei garcharu am roi tabledi ecstasi i ferch "fregus" oedd yn gorfod cael triniaeth feddygol ar ôl eu cymryd.

Fe werthodd Michael Iannucci, 20, y cyffuriau ecstasi i'r ferch 16 oed, wnaeth lyncu wyth o'r tabledi.

Daeth yr heddlu i wybod ar ôl i fam faeth y plentyn gysylltu gyda nhw, gan sôn bod Iannucci wedi anfon negeseuon at y ferch ar ôl iddi fynd i'r ysbyty.

Cafodd Iannucci ei ddedfrydu i bum mlynedd a phedwar mis mewn sefydliad i droseddwyr ifanc.

Tabledi 'Donkey Kong'

Clywodd y llys bod Iannucci yn gwerthu cyffuriau at ddibenion masnachol ac yn anfon negeseuon ynglŷn â "bargeinion" i brynwyr.

Mae heddluoedd Cymru wedi bod yn rhybuddio ynglŷn â pheryglon tabledi 'Donkey Kong', sy'n rhan o ymchwiliad un o'r lluoedd i farwolaeth Carson Price, oedd yn 13 oed.

Bu farw Carson, o Gaerffili, ym mis Ebrill ac fe ddywedodd Heddlu Gwent bod cyffuriau wedi bod yn ffactor yn ei farwolaeth.

Ond cafodd y llys wybod bod gan yr achos yma "ddim i'w wneud" gydag achosion eraill.

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Daeth yr heddlu o hyd i £1,275 yn nhŷ Michael Iannucci

Clywodd y llys bod swyddogion wedi chwilio cartref Iannucci a chanfod ei fod yn rhedeg busnes "soffistigedig oedd yn ffynnu" a'i fod wedi bod yn gwerthu cyffuriau ers "peth amser".

Cafodd 1,403 o dabledi MDMA eu darganfod yn ei dŷ, gyda'r amcangyfrif y byddai'n gallu gwerthu'r cyfan am fwy na £7,000.

Yn ogystal roedd saith twb o dabledi ecstasi wedi eu canfod gyda mwy na "1,000 o dabledi ym mhob twb".

Merch 'fregus'

Ar ôl archwilio ffôn Iannucci roedd yr heddlu yn gallu dweud bod yna gysylltiad rhwng ei ffôn ef a ffôn y ferch 16 oed.

Roedd Iannucci wedi pledio yn euog yn gynharach i fod â thabledi ecstasi a chyffuriau dosbarth A yn ei feddiant, a gwn Taser hefyd.

Wrth ei ddedfrydu dywedodd y barnwr fod ei weithredoedd yn waeth am ei fod wedi gwerthu i "berson bregus o dan 18 oed".