Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 1-1 Barnet

  • Cyhoeddwyd
JJ HooperFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

JJ Hooper sgoriodd i Wrecsam wedi dau funud

Fe gafodd y ddwy gôl ei sgorio gan y naill dîm o fewn yr wyth munud cyntaf ar y Cae Ras wrth i Wrecsam a Barnet rannu'r pwyntiau wedi gêm gyfartal.

JJ Hooper sgoriodd y gôl gyntaf i Wrecsam wedi dau funud, cyn i Dan Sparkes ymateb gyda gôl i Barnet wedi wyth munud.

Mae'r ddau dîîm bellach yn gyfartal ar naw pwynt yr un yn y tabl.

Mae Wrecsam yn yr wythfed safle yn y gynghrair.