Bryn Terfel: Bywyd prysur y canwr o Bantglas

  • Cyhoeddwyd

Ar Ddydd Llun Gŵyl y Banc, 26 Awst, mewn rhaglen arbennig ar BBC Radio Cymru, aeth Garry Owen y tu ôl i lwyfan y Tŷ Opera yn Covent Garden i holi'r canwr byd-enwog Bryn Terfel.

Mae Bryn newydd fod yn chwarae rhan Scarpia yn Tosca gan Puccini a rhan Boris Godunov yn yr opera gan Musorgsky - y ddwy yn y Tŷ Opera yn Covent Garden - ac mae newydd briodi.

Felly beth sy'n gwneud Bryn Terfel yn feistr ar ei grefft?

Ffynhonnell y llun, Royal Opera House
Disgrifiad o’r llun,

Bryn Terfel yn portreadu Boris Godunov

Dwy ran fawr i'r canwr

"Dwi 'di torri rheol a deud y gwir, i beidio canu dwy opera ar ôl ei gilydd mewn un tŷ opera. Nesh i rioed 'neud o, a mwya' sydyn ges i'r cynnig o wneud Scarpia yn Tosca a Boris Godunov. Dim ar yr un pryd wrth gwrs, ond mae'r perfformiada' wedi bod ynghymysg â ymarfer i'r llall.

"Torri'r rheol i un o'r tai opera gora'n y byd a teimlo'n eitha' ffodus mod i wedi cael gwahoddiad i wneud y fath rannau. Os oes 'na rannau lle 'da chi'n edrych ymlaen i'r olygfa gynta' 'da chi'n rhan ohono fo - mae Scarpia yn un - ma' hwnna yn rhywbeth ddyliach chi fwynhau.

"Mae'r hen darw ifanc wedi dechrau slofi. Rhyw hen darw ydw i 'wan felly dwi'n cymryd y cyfleon yma gan fod yn sylwgar i'r ffaith efallai na ddaw y cyfleon yma ddim eto."

Ffynhonnell y llun, Alamy
Disgrifiad o’r llun,

Bryn Terfel fel Scarpia yn yr opera 'Tosca' gan Puccini

'Byd caled' perfformio

Dechreuodd yrfa Bryn mewn eisteddfodau ledled Cymru. Mae bellach wedi bod yn ganwr proffesiynol am 30 mlynedd, ond mae dal i gofio'r blynyddoedd cynnar hynny, a'r cyngor amhrisiadwy a dderbyniodd gan un o'i arwyr, Syr Geraint Evans, flynyddoedd maith yn ôl.

"O'n i fel ryw geffyl yn ei ddilyn o a'r rhannau oedd o wedi eu canu. Y peth cynta' ddudodd o wrtha i oedd 'Bryn, torra dy wallt a phryna siwt newydd. Mwynha bob un rhan wyt ti'n ganu, yn enwedig y rhai 'nes i ganu ymhob twll a chornel o'r byd.'

"Mae o'n fyd caled. Mi allwch chi fod yn lwcus a canu i'r person iawn neu i'r tŷ opera cywir ond mae 'na elfen o lwc hefyd ar ben cael talent a dawn. 'Di'r canran o lwyddiant mewn clywediad ddim yn un uchel iawn gan neb."

Disgrifiad o’r llun,

Bryn yn cystadlu am Wobr Osborne Roberts yn Eisteddfod Genedlaethol Porthmadog yn 1987

Er ei fod bellach yn enw mawr ym mhedwar ban y byd, dydi hynny ddim yn golygu y gallai Bryn ymlacio a stopio ymdrechu. Mae gofyn iddo ddechrau meddwl am ddysgu darnau newydd flwyddyn o flaen llaw, ac mae'n aml yn cael cymorth gan arbenigwyr iaith.

"Fydda i'n cael hunllefa' weithia' ohona i'n dod i dŷ opera am ymarfer cynta' a dwi ddim 'di dysgu'r gwaith a fydda i'n chwys doman yn fy ngwely yn meddwl y fath beth.

"Gyda Boris Godunov, mae Rwsieg yn eithaf agos i'r iaith Gymraeg a dweud y gwir. Y ddwy 'l' ydi'r broblem ond 'na fo, hwnna sy'n waith i fi i gywiro'n hun.

"Dwi'm 'di cael 'y ngeni i fod yn actor ac yn ganwr ar lwyfan, ond mi wna i weithio'n galed i gyflawni rhywbeth i rywun sy'n cydweithio efo fi yn y busnes yma. Os oes gynno chi gynhyrchydd arbennig, mae'r gwaith yma'n hawdd."

Disgrifiad o’r llun,

Priododd Bryn â Hannah Stone ym mis Gorffennaf 2019

Cefnogaeth y teulu

Ynghyd â'r holl waith dysgu, ymarfer a pherfformio, mae'n ddiweddar wedi priodi'r delynores Hannah Stone, ac mae gan y ddau ferch fach gyda'i gilydd, sef Lili.

"Mae'n bwysig fod gynno chi rhywun yn y gynulleidfa da chi yn meddwl neith fod yn hollol onest efo chi.

"Os oes 'na rhan mewn rhai operâu lle dwi damed bach yn boenus ohono fo, mi wneith hi [Hannah] gadw llygad ar hynny. Ac mae hi'n gerddor felly mae hi'n medru adnabod y llais a gweld y ffaeleddau.

"Mae hi wrth ei bodd yn dod draw i'r tŷ opera a mae'n cael noson oddi wrth edrych ar ôl Lili, os 'da ni'n cael rhywun i edrych ar ei hôl hi. Mae Tomos y mab yn dod fyny wythnos nesaf i weld Boris Gudenov a fydd ynta' â diddordeb clywed ei dad yn perfformio hefyd."

Felly, ag yntau wedi taclo rhai o rannau mawr y byd opera, beth nesaf i Bryn Terfel?

"Efallai rhannau sydd â mwy o hwyl, mae hynny'n mynd i ddod fewn i'r llais, sydd yn gwneud y llais efallai yn fwy addfwyn.

"Fydda i'n gwneud cwpwl o operâu gan Donizetti, gan Rossini yn y pum mlynedd nesa'. Mae o wedi cael ei mapio allan yn berffaith gan fy asiant yn barod.

"Nes i berfformio Sweeney Todd efo Emma Thompson a mi 'nath hi ddeud 'swn i'n licio bo' chdi'n rhan o ryw ffilm, ond dio'm 'di cyrraedd eto!"

Hefyd o ddiddordeb: