Cynghorwyr Môn yn ymddiswyddo wedi penodiad prif weithredwr
- Cyhoeddwyd
Mae dau o gynghorwyr Môn wedi ymddiswyddo o bwyllgor yn dilyn penodiad prif weithredwr newydd yr awdurdod.
Bydd Annwen Morgan, sydd ar hyn o bryd yn gweithio fel dirprwy brif weithredwr, yn olynu Dr Gwynne Jones ym mis Hydref.
Ond mae ei phenodiad yr wythnos diwethaf wedi sbarduno ymddiswyddiad dau gynghorydd o banel penodi'r cyngor.
Dywedodd Peter Rogers a Bryan Owen o Annibynwyr Môn nad oedd y broses wedi bod yn "ddigon trylwyr" a bod ei phenodiad wedi bod yn anochel.
'Dim byd personol'
Cafodd cefndir Ms Morgan - y ddynes gyntaf i gael ei phenodi i'r swydd - ym maes addysg ei gwestiynu hefyd.
Fe ddechreuodd Ms Morgan ei gyrfa gyda Chyngor Môn ym 1983 fel athrawes Gymraeg yn Ysgol Uwchradd Bodedern.
Daeth yn bennaeth ar yr ysgol yn 2007 ac yna'n brif weithredwr cynorthwyol gyda'r cyngor sir yn 2016.
Dywedodd y Cynghorydd Rogers, er nad oedd ganddo "ddim yn erbyn Mrs Morgan yn bersonol", y dylai'r cyngor fod wedi penodi rhywun â chefndir ym myd busnes.
Awgrymodd y dylai'r swydd fod wedi cael ei hysbysebu'n fwy "eang", gan gwestiynu pa mor gyflym y cafodd y penodiad ei wneud.
Cadarnhaodd llefarydd ar ran Cyngor Môn fod y ddau gynghorydd wedi ymddiswyddo o'r panel penodi, ond nad oedd yn ymwybodol o'u rhesymau dros wneud hynny.
"Mae pob penodiad yn dilyn proses recriwtio'r cyngor, sydd wedi'i chytuno gan y Panel Penodi, gan sicrhau bod pob penodiad yn dilyn gweithdrefn wrthrychol ac yn cydymffurfio'n llawn ag arferion a chanllawiau Adnoddau Dynol," ychwanegodd y llefarydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Awst 2019