Llofruddiaeth Y Barri: Cyhoeddi enw bachgen 17 oed
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i lofruddiaeth yn Y Barri wedi cyhoeddi enw'r bachgen fu farw.
Cafodd corff Harry Baker, 17 oed o Gaerdydd, ei ddarganfod gan swyddogion ar Ffordd Wimborne am tua 05:50 ddydd Mercher.
Mae Heddlu'r De hefyd wedi cadarnhau bod pedwar person wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.
Mae tri dyn 33, 36, a 47 oed, sy'n lleol i'r ardal, ac un ddynes, 38 oed o Sir Gaerfyrddin, yn parhau yn y ddalfa.
Mae teulu Mr Baker, sydd bellach yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol, wedi rhoi teyrnged i'w mab "arbennig".
"Roedd Harry yn fab ac yn frawd arbennig oedd wrth ei fodd yn treulio amser gyda'i deulu... roedd yn hynod o agos gyda'i frawd bach - roedd ei berthynas ag Alfie mor gadarn a llawn cariad," meddai'r teulu.
"Ni fydd bywyd byth yr un peth ar ôl ei golli... Mi fydd e wastad yn ein meddyliau."
Mae'r heddlu wedi gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am ddigwyddiad ar Ffordd Caerdydd a Ffordd Y Mileniwm yn Y Barri tua 01:00 fore Mercher i gysylltu â nhw drwy ffonio 101.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Awst 2019