Cyhuddo dau ddyn o fewnforio 750kg o gocên
- Cyhoeddwyd

Mae swyddogion i'w gweld yn symud bagiau llawn cocên wedi ei lapio fesul cilogram o'r cwch yn harbwr Abergwaun
Mae dau ddyn wedi eu cyhuddo o fewnforio cocên ar ôl i 750 cilogram o'r cyffur gael ei ddarganfod mewn cwch oddi ar arfordir Cymru.
Fe wnaeth yr Asiantaeth Droseddau Cenedlaethol (NCA) ddarganfod y cyffuriau ar gwch hwylio ger Abergwaun ddydd Mercher.
Fe wnaeth Gary Swift, 53, a Scott Kilgour, 41, y ddau o Lerpwl, ymddangos yn Llys Ynadon Hwlffordd wedi eu cyhuddo o gynllwynio i fewnforio cocên ddydd Iau.
Ni wnaethon nhw gyflwyno ple ac fe gafodd y ddau eu cadw yn y ddalfa.
Cafodd pedwar person arall - tri dyn 23, 31 a 47 oed a dynes 30 oed - eu harestio yn Lerpwl a Loughborough ddydd Mercher, a'u rhyddhau ar fechnïaeth tan ddiwedd Medi.
Dywedodd yr NCA bod y gwaith o archwilio'r cwch - yr SY Atrevido - bellach ar ben, ond bod gwaith fforensig yn parhau.
Mae swyddogion yr NCA a Heddlu Dyfed-Powys yn parhau ar y safle ym mhorthladd Abergwaun.
Bydd y ddau ddyn yn ymddangos yn Llys y Goron Abertawe fis nesaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Awst 2019