Galw ar y cyngor sir i daclo problem sbwriel Llanberis
- Cyhoeddwyd
Mae trigolion Llanberis wedi sefydlu deiseb yn galw ar Gyngor Gwynedd i fynd i'r afael â phroblemau sbwriel a thraffig yn yr ardal.
Gofynna'r ddeiseb i'r awdurdod lleol ddarparu mwy o finiau sbwriel, taclo problemau parcio a chadw toiledau ar agor yn hwyrach i atal pobl rhag defnyddio'r llwyni ar lan Llyn Padarn.
Mae pryder hefyd bod nifer yn gwersylla yn y meysydd parcio ger y llyn dros nos.
Daw cannoedd o ymwelwyr i'r meysydd parcio ger ardal y 'lagŵns' gan nad oes rhaid talu i barcio yno.
Daw'r cwynion wedi penwythnos Gŵyl y Banc lle bu rhai o'r trigolion yn tynnu lluniau o finiau gorlawn a'u rhannu ar wefannau cymdeithasol.
Dywedodd Cyngor Gwynedd mewn datganiad eu bod yn ystyried trefniadau newydd yn 2020 gan gynnwys cyflwyno ffioedd parcio a mesurau i atal pobol rhag gwersylla.
Ychwanegodd y cyngor fod sbwriel yn destun pryder a'u bod nhw'n ceisio newid agweddau ac ymddygiad pobl fel rhan o'u hymateb i'r broblem.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Awst 2019
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2018