Enwebu ardal lechi Gwynedd i fod yn safle UNESCO
- Cyhoeddwyd
Hen ardal lechi Gwynedd fydd yn cael ei henwebu nesaf i fod yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO gan Lywodraeth y DU.
Ym mis Gorffennaf eleni cafodd cais ei baratoi gan Gyngor Gwynedd ar ran saith ardal - Dyffryn Ogwen, Dinorwig, Dyffryn Nantlle, Ffestiniog, Cwm Pennant, Abergynolwyn ac Aberllefenni.
Cafodd y cais ei hastudio gan arbenigwr dros yr haf, a bydd yn cael ei chyflwyno i UNESCO yn ffurfiol y flwyddyn nesaf.
Pe bai'r cais yn cael ei chymeradwyo, byddai'r safle'n ymuno ag atyniadau fel Grand Canyon yr UDA, y Great Barrier Reef yn Awstralia ac Ardal y Llynnoedd yn Lloegr.
Roedd llechi o ogledd orllewin Cymru yn arfer cael eu hallforio ar draws y byd, gyda'r diwydiant ar ei anterth yn ail hanner yr 19eg Ganrif.
Dywedodd Cyngor Gwynedd eu bod yn gobeithio y byddai'r statws yn help i gynyddu swyddi o fewn y diwydiant twristiaeth o 8,000 i 14,000 erbyn 2030.
Ymhlith y sefydliadau eraill sydd yn cefnogi'r cais mae Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis, a Chastell Penrhyn.
Mae 31 o safleoedd treftadaeth UNESCO, dolen allanol eraill ym Mhrydain, gan gynnwys tri yng Nghymru: dyfrbont Pontcysyllte, ardal ddiwydiannol Blaenafon a chestyll Gwynedd.
Dywedodd Gweinidog Celfyddydau, Treftadaeth a Thwristiaeth Llywodraeth y DU, Michael Ellis, bod ardal lechi gogledd Cymru yn "eithriadol o bwysig".
"Mae ei chwareli nid yn unig wedi siapio tirwedd yr ardal ond hefyd nifer fawr o adeiladau dros y DU a'r byd."
Wrth lunio'r cais, dywedodd y cynghorydd Ioan Thomas: "Mae rhywle fel Caernarfon, sydd efo dynodiad [treftadaeth] yn barod yn dod a nifer o ymwelwyr, ac mae nifer o bobl sy'n dod i ymweld â llefydd yn edrych am y statws yma.
"Rydym wedi gweld yr angen i weld buddsoddiad yn ein pentrefi ni ac mae hwn yn galluogi ein bod yn gallu gwneud hynny."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd21 Mai 2015