Cymru 17-22 Iwerddon

  • Cyhoeddwyd
stockdaleFfynhonnell y llun, Inpho
Disgrifiad o’r llun,

Jacob Stockdale yn dathlu ei gais cyntaf

Ar ôl ennill yr 11 gêm ddiwethaf yng Nghaerdydd, mae Cymru wedi colli gêm ryngwladol yn y brifddinas.

Roedd hi'n hanner cyntaf siomedig i Gymru wrth i'r Gwyddelod reoli llawer o'r chwarae, ond fe frwydrodd Cymru yn ôl yn yr ail hanner.

Ar ôl cyfnewid un gic cosb yr un, fe ddaeth cais i Iwerddon ar ôl 17 munud.

Asgellwr chwith y Gwyddelod, Jacob Stockdale oedd y sgoriwr, yn dilyn rhediad yr asgellwr arall, Andrew Conway.

Deg munud yn ddiweddarach fe fanteisiodd Stockdale ar gamgymeriad Aaron Shingler, ac ar ôl cicio'r bel o hanner ffordd fe redodd yr holl ffordd i sgorio ei ail gais.

Yn yr ail hanner roedd yna lawer o newidiadau wrth i Rhys Patchell gymryd lle y maswr Jarrod Evans.

Ond fe wnaeth trafferthion Cymru barhau am gyfnod, wrth i'r eilydd Leon Brown gael cerdyn melyn ar ôl 51 munud - ac ar ôl rhai munudau o bwyso sgoriodd Iwerddon gais cosb.

LanFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Owen Lane yn sgorio ei gais cyntaf i Gymru

Daeth cais cyntaf Cymru ar ôl 63 munud, Owen Lane yn dathlu ei gap cyntaf gyda chais.

Fe ysgogodd hynny gyfnod gorau Cymru, a chais gan Rhys Patchell ar ol 75 munud.

Ond fe wnaeth amddiffyn ystyfnig Iwerddon atal unrhyw sgorio pellach gan y Cymry.

Bydd Warren Gatland yn cyhoeddi pwy fydd yng ngharfan Cymru ar gyfer Cwpan y Byd dydd Sul.