Plac newydd i gofio milwyr a laddwyd ar Arenig Fawr

  • Cyhoeddwyd
Gwirfoddolwyr a drefnodd i osod y placFfynhonnell y llun, Rory Trappe
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gofeb ei gosod ar gopa Arenig Fawr gan griw o wirfoddolwyr

Bydd cofeb newydd yn cael ei dadorchuddio ar gopa Arenig Fawr ger Y Bala ddydd Mercher i gofio am filwyr Americanaidd fu farw yno yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Ar 4 Awst 1943, ar ei thaith yn ôl i ganolfan hyfforddi yng nghanolbarth Lloegr, tarodd awyren B17 Flying Fortress yn agos i gopa'r Arenig gan ladd yr wyth oedd arni.

Roedd yr awyren ar ei ffordd yn ôl o daith ymarfer i ganolfan yr awyrlu yn Mossley Hill yn Sir Gaergrawnt.

Cafodd cofeb lechen ei rhoi yno ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd i gofnodi'r digwyddiad ond sylwodd cynghorydd lleol yn ddiweddar bod y llechen wedi dirywio'n arw.

Wedi ymgyrch ym mis Hydref y llynedd cafodd swm o dros £2,500 ei godi at gofeb newydd - cofeb sydd wedi cael ei gwneud o silicon ac efydd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dilwyn Morgan bod angen cofeb newydd gan fod yr hen lechen wedi dirywio

Dywedodd Dilwyn Morgan, sy'n cynrychioli'r Bala ar Gyngor Gwynedd: "Ro'n i fyny yna rhyw ddwy flynedd yn ôl yn cerdded ac roedd hi'n ddiwrnod niwlog gwlyb - mwya' tebyg fel oedd hi ar y noson pan ddigwyddodd y ddamwain ac o'n i'n meddwl am yr wyth yma wedi eu lladd mor bell o gartref.

"Sylwais fod y gofeb mewn cyflwr difrifol. Cofeb lechen oedd hi ac roedd hi wedi'i hollti efo'r tywydd a doedd dim posib darllen yr enwau arni.

"Dros y ddwy flynedd ddiwethaf dwi wedi bod yn gweithio i godi arian i gael cofeb newydd ac erbyn hyn mae'r gofeb yn ei lle yn barod i gael ei dadorchuddio ddydd Mercher."

Ffynhonnell y llun, Rory Trappe
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i wirfoddolwyr gludo'r gofeb newydd i'r copa

Ychwanegodd y Cynghorydd Morgan ei fod yn edrych ymlaen at y seremoni, ond mai un fer, syml fydd hi i gynnwys cyfraniadau ganddo ef, maer Y Bala a chaplan yr awyrlu.

Os yw'r tywydd yn caniatáu bydd awyrennau'r awyrlu yn hedfan heibio i goffáu'r digwyddiad.