Y dyn o Wynedd enillodd £500,000 ar raglen deledu

  • Cyhoeddwyd
davythFfynhonnell y llun, ITV

Mae nifer ohonon ni'n mwynhau mynd i'r dafarn leol i gymryd rhan mewn cwis, neu edrych ar raglenni cwis ar y teledu. Ond nid pawb sy'n cael y cyfle i ennill £1 miliwn ar sioe deledu.

Ond dyna'r cyfle gafodd Davyth Fear, cyn-athro daearyddiaeth yn Ysgol Bodedern, Môn, sy'n wreiddiol o Gernyw ond yn byw yn ardal Caernarfon ers blynyddoedd.

Roedd Davyth ar y rhaglen Who Wants to Be a Millonaire? ar nos Sul, 1 Medi, ac fe enillodd £500,000.

Felly beth oedd y disgwyliadau cyn ymddangos ar y rhaglen?

"Mewn ffordd oedd gen i ddim disgwyliadau cyn ymddangos ar y rhaglen" meddai Davyth.

'Lwcus i gyrraedd y rhestr fer'

"Ro'n i'n gwybod bod miloedd ar filoedd yn trio bod ar y rhaglen (ges i wybod bod 96,000 wedi trio). Roeddwn yn teimlo fy mod i'n lwcus i gyrraedd y rhestr fer ac wedyn i gyrraedd y rhaglen.

"Roeddwn mwyaf nerfus ynglŷn â'r 'fastest finger first'. Yn yr ymarfer cyn y rhaglen nid oeddwn wedi bod yn gywir llawer o weithiau. Mi wnes i drio rhoi fy hun 'yn y zone' pan ddadlennodd Jeremy'r atebion.

"Dwi'n cyfaddef fy mod i wedi bod yn lwcus iawn i gyrraedd y sedd boeth. Roedd 0.07 eiliad rhyngddaf a'r cystadleuydd nesaf. Ar ôl cyrraedd y sedd boeth, roeddwn yn teimlo fy mod yn gallu ymlacio mwy wedyn a chymryd pob cwestiwn fel roedd yn dod."

Ffynhonnell y llun, ITV

Mae Davyth yn cymryd rhan mewn cwisiau yn achlysurol yn ardal Caernarfon.

"Dwi'n quizzer achlysurol yn nhafarn y Glyntwrog yn Llanrug," meddai. "Enw'r tîm yw 'The team with no name', ond nid wyf yn cyfrannu pob wythnos."

Pwysau'r goleuadau a'r camerâu

Mae hi'n un peth i ateb y cwestiynau o'r soffa yn eich ystafell fyw, ond a ydy hi'n lot anoddach yn y stiwdio o flaen cynulleidfa?

"Mae'n debyg bod camerâu a goleuadau yn creu mwy o densiwn, ond ro'n i'n ceisio ymlacio a mwynhau," meddai Davyth.

"Mae'r lifelines yn help ac roeddwn yn ceisio eu defnyddio'n synhwyrol. Y cwestiynau yr oeddwn mwyaf nerfus ynglŷn â nhw oedd £2,000 a £4,000 ble roeddwn yn gorfod gwneud dyfaliadau addysgedig. Wedyn ces i gwestiynau roeddwn yn gwybod yr ateb iddynt."

Ffynhonnell y llun, ITV

Fe stopiodd Davyth ar y cwestiwn olaf, gan beidio ymdrechu am y £1 miliwn.

"Doeddwn i ddim yn teimlo temtasiwn i ateb y cwestiwn £1,000,000. Roeddwn rhy ansicr o'r ateb," meddai.

Gwario'r £500,000

"Nid wyf mewn brys i wario'r pres. Bydd trafeilio rhywle yn y dyfodol yn neis, yn arbennig efallai i Affrica ble dwi wrth fy modd yn gweld yr adar lliwgar a'r anifeiliaid tra gwahanol."

Felly, a fyddai Davyth yn ymddangos ar gwis arall ar y teledu?

"Does gen i ddim bwriad i ymddangos ar unrhyw gwis arall eto, ond mae'n bosib. O bosib dwi'n ffansio Eggheads," meddai.

Ffynhonnell y llun, ITV

Trafod y Gymraeg ar y sioe

"Roeddwn yn falch bod yna sôn am y gwaith wnes i o safoni enwau adar y byd yn y Gymraeg.

"Ond piti nad oedd digon o amser i sôn am brosiect arall wnes i yn ôl yn yr 80au, sef y record hir roc a pop rhyng-Geltaidd aml-gyfrwng cyntaf erioed (Keltia Rok, a ryddhawyd ar Recordiau Sain yn 1987). Mae'r caneuon o'r record newydd gael eu digideiddio a dylent fod ar gael i lawrlwytho a ffrydio unrhyw ddydd rŵan.

Ysbrydoli eraill i ddysgu Cymraeg

"Gobeithio bod y ffaith bod y rhaglen wedi sôn fy mod i wedi dysgu Cymraeg yn mynd i ysbrydoli eraill i'w wneud.

"Roeddwn yn un o'r tri dysgwr yn rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn na enillodd yn Eisteddfod Abergwaun, ond teimlaf fod y gystadleuaeth yn gymorth mawr i ysbrydoli pobl i ddysgu Cymraeg."

Ar yr un noson yn dilyn ymddangosiad Davyth ar y rhaglen fe enillodd Sean Lea o Wrecsam £32,000. Felly roedd hi'n noson lwyddiannus iawn i Gymru ar un o'r rhaglenni cwis mwyaf poblogaidd!

Hefyd o ddiddordeb: