Mam i ddau wedi marw ar ôl torri ei choes yn ystod ras
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi clywed bod mam 39 oed wedi marw ar ôl i ysbyty fethu â darganfod ei bod hi wedi torri ei choes wrth redeg hanner marathon Caerdydd.
Bu'n rhaid i Sarah-Jayne Roche, o Feddau, Rhondda Cynon Taf, roi'r gorau i redeg hanner ffordd drwy'r ras ym mis Hydref 2018 am fod ganddi boen yn saethu i fyny ei choes chwith.
Fe aeth ei gŵr â hi i Ysbyty Brenhinol Morgannwg lle dywedodd meddygon ei bod hi wedi torri llinyn y gar, a'i chynghori i gymryd paracetamol a rhoi rhew ar y rhan poenus.
Bu'n rhaid iddi ymweld â'r adran gofal brys ddwywaith eto cyn i lun pelydr-X ddangos ei bod hi wedi torri asgwrn y forddwyd yn ei choes.
Bu Mrs Roche farw 12 diwrnod wedi'r ras, ar ôl cael ataliad ar y galon yn ystod llawdriniaeth i roi pin yn yr asgwrn.
Roedd dau o bobl eisioes wedi marw yn ystod yr hanner marathon - cafodd Ben McDonald, 25, a Dean Fletcher, 32, ataliad y galon yn syth ar ôl croesi'r llinell derfyn.
Clywodd y cwest fod Mrs Roche, mam i ddau o fechgyn, eisiau cwblhau ras hanner marathon cyn ei phen-blwydd yn 40 er mwyn codi arian i elusen Parkinsons wedi i'w thad ddatblygu'r cyflwr.
Dywedodd ei gŵr, Steven Roche, mai dyma oedd ras hir gyntaf Sarah-Jayne a'i bod hi wedi dechrau ymarfer tri mis ynghynt.
"Roedd hi'n iawn cyn y ras, a doedd dim pryderon am ei hiechyd, er ei bod hi'n betrusgar cyn y ras," meddai'r gŵr 41 oed.
"Roedden ni'n hyfforddi gyda'n gilydd yn wythnosol, ac fe redon ni'r ras ochr yn ochr.
"Rhyw hanner ffordd drwy'r ras fe stopiodd hi redeg gan ddweud bod ganddi boen oedd yn saethu i fyny ei choes chwith."
Cafodd Mrs Roche ei thrin gan wirfoddolwyr Ambiwlans Sant Ioan tra bod ei gŵr yn cwblhau'r ras.
Poen yn gwaethygu
Dywedodd Mr Roche: "Roedd hi mewn cadair olwyn, mewn poen difrifol, ac fe gafodd hi gyngor i orffwys, i gymryd paracetamol ac Ibuprofen.
"Dim ond am ryw 20 munud y cafodd hi ei gweld gan ymgynghorydd yn yr ysbyty, a doedd yna ddim sôn am lun pelydr-X."
Dywedodd Mr Roche wrth y cwest ei fod wedi mynd â'i wraig yn ôl i'r ysbyty'r diwrnod canlynol am fod y boen yn ei choes yn gwaethygu.
Cafodd gyngor gan ddau feddyg i gymryd poenladdwyr cryf ac i osod potel dŵr poeth ar y goes yn lle rhew.
Wythnos yn ddiweddarach, cafodd Mrs Roche ei chymryd i'r un ysbyty mewn ambiwlans.
"Roeddwn i wedi fy mrawychu, roedd hi mewn cymaint o boen bu'n rhaid iddyn nhw dorri ei throwsus i ffwrdd" meddai Mr Roche.
"Roedd ei choes hi wedi chwyddo i ddwywaith ei faint arferol.
"Dywedon nhw y byddan nhw'n tynnu llun pelydr-X, a dywedodd y meddyg ei fod yn synnu nad oedd un wedi cael ei gymryd ynghynt."
Mae'r cwest yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2018