Pleidleisio o blaid cymryd rheolaeth o amserlen y Senedd
- Cyhoeddwyd
Mae ASau sy'n gwrthwynebu gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb wedi llwyddo i gymryd rheolaeth o amserlen y Senedd dros y dyddiau nesaf.
Mae disgwyl i'r grŵp trawsbleidiol, sy'n cynnwys rhai aelodau Ceidwadol, gyflwyno deddf ddydd Mercher allai orfodi'r Prif Weinidog i oedi Brexit nes dechrau'r flwyddyn nesaf.
Byddai'r ddeddf yn gorfodi Boris Johnson i ofyn am estyniad i Brexit tan 31 Ionawr oni bai fod ASau'n cymeradwyo cytundeb newydd, neu o blaid gadael heb gytundeb, erbyn 19 Hydref.
Fe wnaeth 328 o aelodau bleidleisio o blaid y cais i gymryd rheolaeth o'r amserlen, gyda 301 yn erbyn.
Yn eu plith roedd 34 o'r 40 o Aelodau Seneddol Cymreig, gan gynnwys aelod Ceidwadol Aberconwy, Guto Bebb.
Cais am etholiad
Yn ymateb i'r canlyniad dywedodd Mr Johnson y byddai'n cyflwyno cais am etholiad cyffredinol cynnar.
Ychwanegodd nad oedd ganddo ddewis ond bwrw 'mlaen gyda'r ymdrechion i alw etholiad fis nesaf, gan ddweud: "Bydd yn rhaid i bobl y wlad ddewis."
Dywedodd arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn bod angen pasio'r ddeddf cyn canolbwyntio ar etholiad.
Mae Mr Corbyn wedi dweud ei fod yn barod am etholiad, er bod rhai yn ei blaid yn awgrymu fel arall.
Fe wnaeth 21 o ASau Ceidwadol, gan gynnwys cyn-aelodau cabinet, bleidleisio i drechu'r llywodraeth nos Fawrth.
Dywedodd Mr Johnson y byddai hynny'n rhoi rheolaeth ynglŷn â thrafodaethau Brexit i'r UE, gan arwain at "fwy o oedi a mwy o ansicrwydd".
Mae Mr Johnson wedi mynnu bod rhaid i'r Deyrnas Unedig adael yr UE ar 31 Hydref doed a ddelo.
Colli mwyafrif
Yn gynharach ddydd Mawrth fe wnaeth AS Ceidwadol Phillip Lee adael y blaid i ymuno â'r Democratiaid Rhyddfrydol, gan olygu fod y Prif Weinidog wedi colli ei fwyafrif gweithredol yn Nhŷ'r Cyffredin.
Wrth ymateb i ddigwyddiadau'r dydd dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford fod hon yn "bleidlais hanesyddol" sydd "yn paratoi'r ffordd i gyflwyno Bil i rwystro Llywodraeth y Deyrnas Unedig rhag ein llusgo allan o'r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, gan atal y perygl o Brexit niweidiol o'r fath.
"Mae'n hanfodol, er mwyn Cymru, i bawb nawr ganolbwyntio ar y brif flaenoriaeth sef atal Brexit heb gytundeb.
"Rwy'n annog Tŷ'r Cyffredin i gefnogi'r Bil hwn er mwyn osgoi'r niwed difrifol, systematig i'n heconomi y byddai Brexit heb gytundeb yn ei achosi."
Dywedodd AS newydd y Democratiaid Rhyddfrydol ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed, Jane Dodds bod y bleidlais yn "gam pwysig tuag at atal gadael heb gytundeb, fyddai'n ofnadwy i swyddi, yr economi a'r Gwasanaeth Iechyd".
Ychwanegodd Liz Saville Roberts o Blaid Cymru y bydd y ddeddfwriaeth fydd yn cael ei gynnig ddydd Mercher yn "ein gwyro i ffwrdd o drychineb economaidd".
"Ni wnaeth unrhyw un bleidleisio o blaid llai o swyddi, cyflogau is a diffyg bwyd. Dydy dim cytundeb ddim yn opsiwn," meddai.
Mae'r Prif Weinidog yn "gywilydd cenedlaethol" meddai'r AS Llafur ar gyfer Gogledd Caerdydd Anna McMorrin gan honni fod ei "anwireddau a'i gega wedi dod i'r amlwg".
'Bradychu democratiaeth'
Ond dywedodd cyn arweinydd y blaid Geidwadol yn y Cynulliad, Andrew RT Davies ar Twitter fod canlyniad y bleidlais "nawr yn caniatáu ASau i gyflwyno deddf i oedi Brexit sydd unwaith eto yn bradychu democratiaeth".
Yn ôl y Ceidwadwr David Davies, wnaeth bleidleisio gyda'r llywodraeth, fydd y mater ddim yn cael ei sortio yn y Senedd.
"Dim ond etholiad cyffredinol all sortio hyn. Does neb eisiau gorfodi etholiad ar bobl ond dyna'r ffordd y mae hyn am gael ei ddatrys," meddai.
Yn y cyfamser, mae AS Aberafan, Stephen Kinnock wedi cefnogi cynllun i gael pleidlais arall ar gytundeb Theresa May, gafodd ei wrthod ychydig fisoedd yn ôl.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Medi 2019
- Cyhoeddwyd3 Medi 2019
- Cyhoeddwyd3 Medi 2019