Boris Johnson yn colli ei fwyafrif cyn pleidlais
- Cyhoeddwyd
Mae'r AS Ceidwadol Phillip Lee wedi gadael y blaid i ymuno â'r Democratiaid Rhyddfrydol cyn y bleidlais allweddol ar Brexit yn San Steffan nos Fawrth.
Mae'n golygu fod y Prif Weinidog wedi colli ei fwyafrif gweithredol yn Nhŷ'r Cyffredin.
Mae Boris Johnson wedi addo gadael yr Undeb Ewropeaidd ar 31 Hydref doed a ddelo, ond mae nifer o ASau sy'n gwrthwynebu gadael heb gytundeb wedi cydweithio ar draws y pleidiau er mwyn ceisio atal hynny rhag digwydd.
Fe wnaethon nhw gyflwyno cynnig am ddadl frys i'r Llefarydd John Bercow, wnaeth gymeradwyo'r cais.
Os fydd y cynnig yn llwyddo fe fyddan nhw'n cyflwyno mesur fyddai'r gorfodi'r Prif Weinidog i ofyn am estyniad i Brexit tan 31 Ionawr oni bai fod ASau'n cymeradwyo cytundeb newydd, neu o blaid gadael heb gytundeb, erbyn 19 Hydref.
Etholiad ar y gweill?
Dywedodd Mr Johnson ei fod am adael gyda chytundeb a bod "momentwm go iawn" yn y trafodaethau ym Mrwsel.
Ond mynnodd fod ymdrechion ASau, gan gynnwys nifer o Geidwadwyr, i basio deddf i rwystro gadael heb gytundeb ar 31 Hydref yn "chwalu unrhyw obaith o gytuno ar ddêl newydd".
Mae llefarydd o 10 Downing Street wedi dweud y bydd y prif weinidog yn ceisio am etholiad cyffredinol ar 14 Hydref os fydd y mesur yn llwyddo.
Credir y bydd tua 15 o ASau Ceidwadol yn pleidleisio yn erbyn y llywodraeth ar y mesur nos Fawrth.
Pwrpas y mesur yw cymryd rheolaeth o amserlen Tŷ'r Cyffredin ddydd Mercher, fyddai yn ei dro yn caniatáu dadl ar orfodi Mr Johnson i ymestyn dyddiad Brexit tan 2020 o dan yr amgylchiadau uchod.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Medi 2019
- Cyhoeddwyd1 Medi 2019
- Cyhoeddwyd31 Awst 2019