Cerddwr wedi marw mewn gwrthdrawiad ffordd yn Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd
Swyddogion heddlu'n archwilio safle'r gwrthdrawiad ddydd Iau 5 Medi
Disgrifiad o’r llun,

Swyddogion heddlu'n archwilio safle'r gwrthdrawiad ar y ffordd wledig rhwng Amlwch a Rhosgoch

Mae dyn ifanc wedi marw wedi gwrthdrawiad ffordd ar Ynys Môn.

Cafodd yr heddlu eu galw i ffordd rhwng Amlwch a Rhosgoch am 22:26 nos Fercher wedi gwrthdrawiad rhwng cerddwr a char Ford Fiesta glas.

Cafodd ambiwlans ei alw i'r safle ond roedd y cerddwr wedi marw yn y fan a'r lle.

Mae'r ffordd yn dal ar gau am y tro ac mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth neu luniau all helpu'r ymchwiliad i'r achos.

"Mae ein meddyliau'n parhau gyda theulu'r dyn ifanc oedd yn rhan o wrthdrawiad neithiwr," meddai'r Sarjant Raymond Williams o Uned Plismona'r Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru.

"Rydym yn apelio ar unrhyw un oedd yn teithio yn y cyffiniau allai fod wedi gweld cerddwr i gysylltu â ni.

"Rydym hefyd â diddordeb clywed gan unrhyw un oedd wedi bod yn gyrru yn yr ardal yn y cyfnod cyn y gwrthdrawiad sydd o bosib â lluniau dash cam all helpu ein hymchwiliad."

Mae'n bosib cynnig gwybodaeth i swyddogion Uned Plismona Ffyrdd y Gorllewin trwy ffonio 101 gan ddyfynnu'r cyfeirnod X129676.