Cwpan Rygbi'r Byd: Colofn Ken

  • Cyhoeddwyd
Ken Owens

'Bach o hwyl'

Sa'i 'di sgwennu lot ers ysgol - so fe'n dod yn naturiol i fi - ond co ni off 'da cholofn bydd yn bach o hwyl gobeithio - ac yn cynnig bach o insight i chi ddarllenwyr Cymru Fyw o fywyd tu ôl i'r llen 'da Cymru yng Nghwpan y Byd.

So, mae'r garfan wedi ei chyhoeddi. O'n i yn y tŷ gyda Efan y mab yn ware mas y bac pan dda'th y cyhoeddiad.

Ges i wybod am ddau o'r gloch fel pawb arall drwy'r fideo ar y we.

'Naethon nhw ofyn i ni yn yr wythnosau cyn hynny, os nad o'n i yn y garfan shwt o'n i mo'yn gwybod? Galwad ffôn, ebost, tecst?

Wel o'dd dau o'r gloch yn dod lan a do'n i ddim wedi clywed dim - felly o'n i'n eitha' hyderus!

Nes i drial dweud wrth Efan, sy'n bedair oed, bo' fi mewn ond... wel, do'dd dim syniad 'da fe! O'dd e'n fwy interested mewn bod mas yn chwarae transformers 'da Betsi a Gelert, y ddau gi!

Anodd i rai

Yn amlwg ma' rhai 'di cael newyddion drwg. Ges i alwad ffôn gyda Rob (Evans) yn eitha' buan wedyn - o'dd e'n siomedig iawn, ond chwarae teg 'nath e ymateb yn grêt a hala neges i'r grŵp WhatsApp yn dymuno'n dda i'r bois.

Mae'n galed, achos ma' fe wedi bod yn rhan annatod o'r garfan dros y blynydde diwetha a fi'n credu bo' anafiadau wedi dal lan 'da fe dros yr haf - ond o'dd e'n positive iawn ac o'dd e'n edrych mlaen i fynd nôl at y Scarlets a cael chwarae a bod mas ar y cae.

Wedyn ges i tecst gan Samson (Lee). Nes i hala neges nôl ond o'dd e'n eitha' tawel - do'dd e ddim rili mo'yn siarad lot.

So nawr ni'n paco'r cit i gyd ar gyfer Japan - ma fe'n bach o chaos cael popeth 'di paco a gwybod be sy' angen ond fi'n edrych 'mlaen jyst i fynd nawr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ken yn herio Lloegr mewn gêm brawf ym mis Awst

Rhannu 'stafell a chwyrnu

Mae 'di bod yn haf caled ac eitha hir. Dyna be' sy'n digwydd yn blynydde Cwpan y Byd - ma' lot o ecseitment, lot o waith caled. Mae 'di bod yn adeiladu dros ddwy flynedd ond ni jyst yn edrych mlaen i fynd mas nawr a dechre'r bencampwriaeth.

Sai'n gwybod eto pwy fi'n mynd i fod yn 'rwmo' gyda. Mae'n siŵr fydde lot o'r bois yn dweud bo' nhw ddim mo'yn rhannu 'stafell gyda fi achos bo' fi'n chwyrnu a stwff... whatever!

Mae'n eitha' trist achos fi 'di bod yn rhannu 'stafell da Rob Evans dros yr haf felly fydd angen i fi ffeindio rhywun arall nawr.

Y 'rwmi' delfrydol fydde rhywun sy' â'r un habits a fi - teledu yn mynd off yr un amser, rhywun ti'n dod mlaen 'da. Fi'n daclus iawn ond weithiau opposites attract achos o'dd Rob â phopeth yn bobman! Pwy bynnag fi'n endo lan 'da fi'n siŵr gewn ni hwyl a sbri.

Sac... a dyrchafiad?

Y newyddion mawr yw bo' fi 'di cael y sac fel arweinydd y côr! Rhys Patchell sy'n 'neud ar y daith 'ma. Mae'n upgrade ohona' i achos mae'n chwarae piano a gitâr hefyd - A mae'n gallu canu. O'n i'n tone deaf - angerdd o'dd yn cario fi drwy'r jobyn 'na a dim arall!

Disgrifiad,

Ken Owens a Rhys Patchell sy'n dweud beth allwn ni ei ddisgwyl o Gwpan Rygbi'r Byd eleni

Fi sy' ar y fines committee nawr - sa'i'n gwybod a ydw i wedi cael dyrchafiad ai peidio! Mae'n gwaith ni'n cynnwys edrych ar ôl ein gilydd - os oes rhywun â'r top anghywir 'mlaen neu yn hwyr i'r bws neu ddim yn daclus ma' nhw'n talu bach o arian ac ma' popeth ni'n casglu dros y daith yn mynd at elusen.

Alun Wyn Jones sy'n penderfynu pwy sy'n neud popeth fel capten. Ma' nifer o grwpiau gwahanol: grŵp cymunedol, sy'n gadael i'r bois wybod os oes plant yn dod i wylio neu os oes appearance 'da ni, grŵp laundry sy'n 'neud yn siŵr bod dillad yn cael eu glanhau. Tom Francis sy'n edrych ar ôl y bwyd - standard! Ma' fe jyst yn gweithio gyda Andre y chef yn trafod be' ma'r bois mo'yn i fwyta.

Liam Williams a James Davies sy' ar yr entertainment committee - y syniad yw bo' pawb 'da job a phawb yn teimlo yn rhan ohono fe.

Edrych 'mlaen i'r swshi

Yn anffodus, sa'i 'di dysgu llawer o Japaneg - Arigato (diolch) - a dyna ni!

Ond fi yn edrych 'mlaen i brofi diwylliant newydd - fi 'di bod i Seland Newydd, De Affrica ac i Awstralia ond erioed 'di bod i Japan. Fi'n edrych 'mlaen i fwyta bach o swshi mas 'na a gweld rhywle arall yn y byd.

Tan tro nesa' - Ken.

Dros gyfnod Cwpan Rygbi'r Byd bydd Ken Owens (neu Ken y Siryf!) yn rhoi cip arbennig i ni o fywyd carfan rygbi Cymru yn Japan - dyma'i golofn gyntaf.

Hefyd o ddiddordeb: