Arestio dyn wedi digwyddiad Maenan, Llanrwst

  • Cyhoeddwyd
A470
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr A470 ynghau am gyfnod ddydd Gwener

Mae dyn wedi ei arestio yn dilyn digwyddiad yn ardal Llanrwst ddydd Gwener.

Cafodd yr heddlu eu galw i adroddiad bod dyn gyda chyllell ar Ffordd Llanrwst, Maenan, toc wedi 12:00.

Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru bod un dyn wedi ei gludo mewn hofrennydd i ysbyty yn Stoke, ac un arall mewn ambiwlans i Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan.

Mae dyn 24 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o anafu.

Dywedodd yr heddlu bod arf wedi ei ganfod, ac nad ydyn nhw'n edrych am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

'Y ddau yn waed i gyd'

Dywedodd llygad-dyst ei bod wedi gweld dau ddyn yr oedd hi'n meddwl oedd â phaent coch drostynt.

"Wrth i mi agosáu roedden nhw'n gweiddi ar fy nghar felly wnes i stopio," meddai Lisa Goodier o Lanrwst.

"Wnes i sylwi bod y ddau yn waed i gyd.

Wnes i ddod allan o'r car a gweld bod y dyn wedi cael anafiadau i'w ddwylo, ei wyneb a'i ben. Roedd ei grys yn wlyb gyda gwaed."

Ychwanegodd bod ambiwlans wedi cyrraedd i gludo'r dyn oedd wedi ei anafu i'r ysbyty, a'r adeg honno wnaeth hi sylwi bod ganddo "anaf enfawr" yn ei fol hefyd.

Roedd yr A470 ynghau am gyfnod, ond mae bellach wedi ailagor.