Cymru dan-21 1-0 Gwlad Belg dan-21

  • Cyhoeddwyd
Brennan JohnsonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd chwaraewr Nottingham Forest, Brennan Johnson, ar ei ymddangosiad cyntaf i'r tîm dan-21

Cafodd tîm dan-21 Cymru y dechrau perffaith i'w hymgyrch i gyrraedd pencampwriaeth Euro 2021 wrth drechu Gwlad Belg ar y Cae Ras ddydd Gwener.

Aeth Cymru ar y blaen wedi dim ond pum munud, gyda Brennan Johnson yn rhwydo ar ei ymddangosiad cyntaf i'r tîm dan-21.

Fe gafodd y Cymry ifanc sawl cyfle arall yn yr hanner cyntaf a bu ond y dim i Johnson ddyblu'r fantais yn eiliadau ola'r hanner.

Tîm Paul Bodin gafodd y gorau'r o'r chwarae yn yr ail hanner hefyd, gan sicrhau mwy o gyfleoedd a chyfyngu'r Belgiaid i ambell ergyd.

Er hynny roedd angen arbediad gwych gan golwr Cymru, George Ratcliffe, wrth i Wlad Belg greu cyfle gwych i unioni'r sgôr wedi 86 munud.

Ond dal eu gafael wnaeth Cymru gan sicrhau triphwynt pwysig dros ben mewn grŵp anodd dros ben.

Bydd Cymru'n herio'r Almaen nos Fawrth, gyda'r gêm honno hefyd yn cael ei chwarae yn Wrecsam.