Cyhuddo 15 o bobl o gyflenwi cyffuriau
- Cyhoeddwyd
Mae pymtheg o bobl wedi bod o flaen dau lys yn y gogledd wedi eu cyhuddo o nifer o droseddau yn ymwneud a chyffuriau.
Daeth y cyhuddiadau yn dilyn cyrchoedd gan y heddluoedd y gogledd, Glannau Mersi a Dumfries yn yr Alban fore Iau a oedd yn targedu gangiau cyffuriau llinellau sirol (county lines).
Yn Llys Ynadon Llandudno fore Sadwrn cafodd Steven Dooley, 32, o Waresley Crescent, Lerpwl, a Shaun Dooley, 30, o Bulford Road, Lerpwl, eu cyhuddo o gynllwynio i gyflenwi heroin, cocaine, amphetamine ac un cyffur arall categori B rhwng Ionawr 1, 2017, a Medi 6 eleni.
Mae Jack Jones, 27, o Rimrose Valley Road, Crosby, Glannau Mersi a Colin Jones, 48, o Lannau Mersi yn wynebu'r un cyhuddiadau. Mae Colin Jones hefyd yn wynebu cyhuddiad o achosi niwed corfforol difrifol fwriadol.
Mae Anthony Fahy, 27, o Gongl Rhedyn, Bae Cemaes, Ynys Môn wedi ei gyhuddo o gynllwynio i gyflenwi cocaine ac un cyffur arall categori B.
Cafodd Leon Langford, 43, o Kingsley Road, Garden City, Glannau Dyfrdwy, ei gyhuddo o gynllwynio i gyflenwi heroin a cocaine ac mae Richard Anderson, 46, o Glebe Place, Lockerbie, Yr Alban, wedi ei gyhuddo o gynllwynio i gyflenwi cocaine.
Cafodd y saith eu cadw'n y ddalfa.
Cyhuddo dwy Fam
Yn y cyfamser aeth pump dyn a thair dynes o flaen Llys y Goron yr Wyddgrug i wynebu cyhuddiadau yn ymwneud â'r cyrchoedd, mewn gwrandawiad a barodd pedair awr a hanner.
Mae Dave James Rawling, 37, o Lily Road, Litherland; Keith Raymond Furmedge, 49, o Elstead Road; Edward White, 60, o Elstead Road; a Patricia Massingham, 49, o Studland Road - pob un a'u cyfeiriad yn Lerpwl - yn wynebu chwe chyhuddiad o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau.
Mae Mr Rawling hefyd yn wynebu cyhyddiad o gynllwynio i achosi niwed corfforol difrifol rhwng mis Mai a Mehefin eleni.
Cafodd Toni Anne Louise Stagg, 21, o Queensway yn Shotton; Lisa May Tinson, 44, o Osbourne Court, Cei Conna; Peter Powell, 52, o Sealand Avenue yn Garden City; a James Michael Hughes, 38, o Ryland Street yn Shotton, eu cyhuddo o ddau achos o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau.
Cafodd chwech o'r wyth eu cadw'n y ddalfa, ac fe gafodd Mr Powell a Mr Hughes eu rhyddhau ar fechniaeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Medi 2019