Cyrchoedd yr heddlu yn targedu gangiau cyffuriau
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gogledd Cymru, ynghyd â heddluoedd yn Yr Alban a Glannau Mersi, wedi cynnal nifer o gyrchoedd ben bore gan dargedu gangiau cyffuriau llinellau sirol (county lines).
Prif bwrpas y cyrchoedd oedd ceisio dod o hyd i gyflenwadau anghyfreithlon o gocên a heroin.
Cafodd archwiliadau ar eiddo eu cynnal am 07:15 fore Iau yn Sir y Fflint, Sir Conwy ac Ynys Môn.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu'r Gogledd fod dros 300 o swyddogion o dri llu gwahanol wedi cymryd rhan yn y cyrchoedd.
Yn gynharach eleni, fe wnaeth yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol amcangyfrif fod yna 100 o linellau sirol - gangiau sy'n ceisio ehangu o'r dinasoedd i drefi ac ardaloedd gwledig - yn weithredol yng Nghymru.
"Bydd dosbarthu cyffuriau anghyfreithlon ddim yn cael ei ddioddef a byddwn yn cymryd camau cadarn i'w rhwystro," meddai'r Uwch Arolygydd Mark Pierce o Heddlu'r Gogledd.
"Ond nid ydym yn gallu gwneud hyn ar ben ein hunain, a'r allwedd bwysig i'n helpu yw gwybodaeth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Awst 2019
- Cyhoeddwyd15 Awst 2019
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2019