Apêl wedi i ddyn 'hyrddio cerbyd heddlu am yr eildro'
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n chwilio am ddyn a hyrddiodd gerbyd heddlu yn Sir y Fflint - ddyddiau'n unig ar ôl cael dedfryd mewn llys am drosedd debyg.
Cafodd Lee Kutryk, 25 o Gei Connah, ddedfryd o chwe mis o garchar wedi ei ohirio a gorchymyn ymddygiad troseddol yr wythnos ddiwethaf am yrru at swyddogion heddlu wrth iddyn nhw geisio ei arestio yn Y Fflint.
Ond yn ôl neges ar dudalen Facebook Heddlu Gogledd Cymru fe hyrddiodd gar heddlu eto nos Sadwrn yn Nhreffynnon.
Dywed y llu bod y ddau swyddog yn y car "yn ddolurus" wedi digwyddiad y maen nhw'n ei ddisgrifio fel un "ffiaidd".
Maen nhw'n gofyn i unrhyw un sydd wedi gweld Lee Kutryk ffonio 999.