Llai o bobl Cymru'n ddi-waith rhwng Mai a Gorffennaf
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y bobl yng Nghymru sy'n ddi-waith wedi gostwng unwaith yn rhagor, yn ôl yr ystadegau diweddaraf.
Roedd 11,000 yn llai o bobl yn chwilio am waith yn y cyfnod rhwng Mai a Gorffennaf nag yn ystod y chwarter blaenorol, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Mae'r ganran diweithdra'n parhau ar 3.8% - yr un lefel â'r DU yn gyffredinol.
Ond mae'r gyfradd ychydig yn uwch nag yn ystod yr un cyfnod yn 2018, ac mae 13,000 yn llai o bobl mewn gwaith nag na rhwng Mai a Gorffennaf y llynedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2019