Ymchwiliad heddlu i farwolaeth dyn yng Nghwmbrân
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth wrth ymchwilio i farwolaeth dyn 76 oed yn Nhorfaen.
Dywed y llu bod dyn 55 oed yn y ddalfa ar ôl cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.
Cafodd y pensiynwr ei ddarganfod yn farw mewn tŷ yn Heol Cydweli tua 10:30 ddydd Mawrth.
Dywedodd llefarydd bod y llu ddim yn chwilio am unrhyw un arall ar hyn o bryd mewn cysylltiad â'r achos.
Mae swyddogion ar ddyletswydd yn yr ardal i drafod unrhyw bryderon gyda thrigolion lleol.
Gofynnir i unrhyw un all gynnig gwybodaeth o fudd i'r ymchwiliad gysylltu â'r heddlu gan ddyfynnu'r cyfeirnod 1900333888 neu drwy ffonio Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.