Gwasg Gomer i roi'r gorau i'w hadran gyhoeddi llyfrau
- Cyhoeddwyd
Mae Gwasg Gomer wedi cyhoeddi y byddan nhw'n cau eu hadran gyhoeddi llyfrau, ac yn parhau gydag ond eu hadran argraffu o hyn ymlaen.
Fe ddaeth y cyhoeddiad gan y cwmni brynhawn ddydd Mawrth, a hynny ar ôl ystyriaeth "fanwl" i "gyfeiriad strategol y cwmni".
Mynnodd y wasg y byddai'r penderfyniad yn diogelu dyfodol eu 55 o staff yn hytrach na arwain at golli swyddi.
Yn 2017 fe wnaeth nifer o staff blaenllaw adael y cwmni oherwydd anhapusrwydd honedig ynglŷn â phroses ailstrwythuro mewnol, a phenderfyniad i symud yr ochr gyhoeddi o Landysul i Gaerfyrddin.
Mynnodd Gwasg Gomer na fyddai'r penderfyniad diweddaraf yn effeithio ar lyfrau sydd eisoes yn y broses o gael eu cyhoeddi.
Mewn datganiad fe ddywedodd y cwmni: "Y mae cwmni argraffu a chyhoeddi Gomer wedi penderfynu, ar ôl rhoddi ystyried manwl i gyfeiriad strategol y cwmni, i osod terfyn graddol ar ei adran chyhoeddi ac i ganolbwyntio ar yr adran argraffu ac felly sicrhau dyfodol y staff o 55.
"Yn y cyfamser bydd Gomer yn parhau i weithio gydag awduron a Chyngor Llyfrau Cymru i gyhoeddi teitlau sydd eisoes ar y gweill, yn ogystal â gweithredu fel cyhoeddwr i'r 3,500 o deitlau sydd mewn print yn gyfredol, ac yn sicrhau bod breindaliadau yn cael eu talu i awduron yn ogystal ag adargraffu teitlau poblogaidd pan fo galw am hynny."
'Pwerdy cyhoeddi'
Mae'r cyhoeddiad eisoes wedi ennyn ymateb ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda'r awdur Ifan Morgan Jones ymhlith y rheiny a ddywedodd ei fod yn "drist" o glywed y newyddion.
Ychwanegodd yr adolygydd Catrin Beard ar Twitter: "Trueni mawr - traddodiad anrhydeddus yn dod i ben - llyfrau Gomer wedi bod o'r safon uchaf dros y blynyddoedd."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Wrth siarad ar raglen Post Prynhawn BBC Radio Cymru dywedodd y golygydd Bethan Mair, sydd wedi gweithio â Gomer yn y gorffennol, fod modd disgrifio'r wasg fel "pwerdy cyhoeddi llenyddiaeth Gymraeg".
"Mae'r enwau mawrion ar lyfrau Gwasg Gomer, o Saunders Lewis, Waldo Williams, Gwenallt, T Llew Jones, Eigra Lewis Roberts - mae'r rhestr mor faith allai fyth a'u henwi nhw i gyd."
Ychwanegodd: "Mae'r ffaith bod cyhoeddwyr hyd yn oed yn ystyried cau yn loes i rywun fel fi sydd yn caru llenyddiaeth a diwylliant, ond mae gweld Gwasg Gomer yn cau yn arbennig o llym."
Cafodd y cwmni, un o weisg mwyaf blaenllaw Cymru erbyn heddiw, ei sefydlu'n wreiddiol 127 mlynedd yn ôl yn Llandysul.
Yn wreiddiol roedd yn siop gyffredinol, ond dros y blynyddoedd datblygodd i fod yn wasg lyfrau a dod yn adnabyddus am gyhoeddi llyfrau yn y Gymraeg a'r Saesneg i oedolion a phlant.
Dadansoddiad Huw Thomas, gohebydd cyfryngau a chelfyddydau
Mae penderfyniad Gomer yn ddiwedd ar gyfnod o ailstrwythuro i'r cwmni, sydd wedi bod yn un o gonglfeini byd llenyddiaeth Cymru ers dros ganrif.
Er bod ymateb trist i'r newyddion, does fawr syndod gyda'r penderfyniad.
Mae cyllidebau tynn yn rhoi mwy o bwysau ar gynaladwyedd y llond llaw o gyhoeddwyr sy'n derbyn grantiau llywodraeth i sicrhau bod llyfrau Cymraeg yn cael eu cyhoeddi ochr yn ochr â llyfrau sy'n fwy llwyddiannus yn fasnachol.
Nid oes gan bob gwasg adrannau argraffu i sicrhau elw, ond i staff Gomer y gobaith yw y bydd yr ailstrwythuro diweddaraf yn fodd o sicrhau dyfodol y wasg hanesyddol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2017