Pwy yw'r Welsh Whisperer?
- Cyhoeddwyd
Mi fydd y caneuon 'Ni'n Beilo Nawr' a 'Loris Mansel Davies' yn gyfarwydd i ffans y perfformiwr canu gwlad y Welsh Whisperer.
Ond efallai y byddai rhai o'r ffans hynny ddim yn sylweddoli mai Andrew Walton yw enw'r perfformiwr a gafodd ei fagu yng Nghwmfelin Mynach yn Sir Gaerfyrddin. Mae bellach yn byw ym Methesda, Gwynedd.
Mae wedi graddio mewn newyddiaduraeth a bu'n athro ysgol gynradd yn y gogledd am sawl blwyddyn, cyn mentro o ddifri i'r byd perfformio tua pum mlynedd yn ôl.
Mae'r Welsh Whisperer bellach yn wyneb cyfarwydd ar y teledu, yn perfformio canu gwlad mewn gwyliau cerddorol ac yn denu niferoedd i neuaddau pentref ar hyd y wlad, ond pwy yw'r person tu ôl y cymeriad?
"Dechreues i ganu caneuon acwstig am bethe gwirion o gwmpas tafarndai Sheffield gyda ffrindie, mewn nosweithiau comedi," meddai Andrew Walton wrth siarad ar Radio Cymru.
"Tan o'n i tua 26 oed, do'n i erioed 'di neud dim byd fel 'na, a ges i flas o'r teimlad arbennig iawn, pan mae pawb yn mwynhau ac yn cymeradwyo, a dwi ddim yn meddwl bod dim byd cweit yn debyg," meddai Andrew Walton.
"Daeth yr enw [Welsh Whisperer] wrth hen ffrind i fi sy'n dod o Sheffield, sydd erioed 'di bod yng Nghymru, ddim yn siarad Cymraeg.
"O'dd e wedi gweld llun ohona' i ar Facebook yn pwyso yn erbyn iet, o'dd barf mawr 'da fi, cap stabal, a hen siwmper wlân, o'n i'n edrych fel hen ddyn. Wedodd e mod i'n edrych fel rhywun o glawr vinyl o'r 70au, ac fel rhywun ddyle gael yr enw Welsh Whisperer.
"A dyna ni.. light bulb yn fy mhen i, ac o'n i'n meddwl, mae rhywbeth yn hwnna..."
"Mae cerddoriaeth tafod yn y boch, caneuon doniol am gefn gwlad yn eitha' poblogaidd yn Iwerddon, o'n i'n meddwl bod angen rhywbeth fel 'na yn Gymraeg. Mae 'na gymeriadau cryf fan hyn, sy'n lico diggers a trucks a tractors, mae 'na gyfle i wneud rhywbeth."
Mae canu yn y Gymraeg yn unig yn bwysig i'r Welsh Whisperer, meddai, ac mae'n gwrthod cynigion i ganu'n Saesneg.
Ond mi fyddai hynny, a'r ffaith ei fod yn berfformiwr o gwbwl, yn syndod i'w gyn athrawon yn Ysgol Gyfun Bro Myrddin, yn ôl Andrew Walton. Doedd dim arwydd bryd hynny y byddai'n mynd i'r byd adloniant, heb sôn am ganu yn y Gymraeg, pan oedd yn ddisgybl ysgol yng Nghaerfyrddin.
"D'on i ddim yn dangos llawer o ddiddordeb yn y byd Cymraeg o gwbl tan i fi symud o Gymru. A fi'n credu bod hynna yn rhywbeth cyffredin.
"Pan o'n i'n byw yn Sheffield am bum mlynedd o'n i'n dechre meddwl mod i'n dechre colli cyswllt gyda adre a poeni y bydden i'n colli'r iaith Gymraeg, felly dechreuais wrando ar Radio Cymru am y tro cynta' a gwylio S4C, neud ymdrech i gael gafael yn yr iaith.
"O'n i'n teimlo rhyw ben bydde rhaid i fi ddod nôl, a nawr allai ddim dychmygu byw yn unrhyw le arall," meddai'r canwr sydd wedi ymgartrefu ym Methesda.
Dylanwad annisgwyl Tecwyn Ifan
Cafodd Andrew Walton ei fagu ar aelwyd ddi-Gymraeg yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin. Mae ei fam o Birmingham a'i dad o Derbyshire, ond fe symudon nhw i Gymru yn y 1970au.
"Dwi wedi dod mewn i'r busnes cerddoriaeth Cymraeg yn eitha' hwyr, gan mod i'n dod o gartref di-Gymraeg. Yr unig gyswllt oedd 'da fi â cherddoriaeth Gymraeg oedd Tecwyn Ifan yn pregethu yng nghapel Ramoth Cwmfelin Mynach, pan o'n i'n fach.
"O'n i'n gweld Tecwyn Ifan yn canu yn y capel, wedyn o'n i'n gweld ei gasetiau o gwmpas y lle, a ddim tan o'n i'n fy ugeiniau ddes i sylweddoli ei fod wedi bod yn ganwr enwog. Heblaw am Dafydd Iwan, d'on i ddim yn nabod y bobl 'ma, d'on i ddim yn gwrando ar radio Cymraeg ar y pryd nac yn gwylio lawer ar S4C. Dwi wedi darganfod hwn i gyd yn hwyrach ymlaen.
"Ond dwi wedi tyfu fyny fel Cymro. Dysgodd Mam Gymraeg yn syth ar ôl symud yma a mae Dad nawr yn dysgu Cymraeg ar ôl ymddeol. Mae e wedi cyfadde dros y blynyddoedd, teimlo ychydig o gywilydd, pan mae e'n mynd lawr i Aberteifi i wylio rygbi neu i Arberth, mae ei ffrindie fe i gyd yn siarad Cymraeg ond yn troi i'r Saesneg pan mae e rownd y bwrdd, a mae'n anodd i dderbyn, ond mae e'n dysgu Cymraeg nawr.
"Mae fy rhieni yn cyfri eu hunain fel Cymry nawr a fy nwy chwaer."
Canu ym mhob rhan o Gymru
"Y peth gorau sy' wedi digwydd yw cael mynd i'r llefydd anghysbell fydden i ddim fel arfer yn mynd iddyn nhw, fel pentrefi bach ym Mhen Llŷn. Mae mor wych cael cyfarfod pobl ddiddorol a'r cymeriadau yma'n aml sy'n sbarduno syniadau am ganeuon newydd.
"Ar y dechre o'n i'n cael crowd hŷn, mwy traddodiadol, ddweda i, ond newidiodd hwnna yn raddol. Oedd y bois sydd yn gweithio ar yr hewl, y plumbers a'r trydanwyr yn troi lan, a wedyn oedd y plant yn dechrau dod, yn mwynhau caneuon fel 'Ni'n Beilo Nawr.'
"Dwi wrth fy modd yn canu mewn neuaddau pentre achos yn aml iawn mae lot ohonyn nhw ddim yn cael llawer o ddefnydd a pan fyddai'n tyrchu trwy'r drôr a gweld carden gyrfa chwist o 1989, dwi'n teimlo'n falch bod y lle yn llawn unwaith eto.
"O'n i mewn tafarn yn Nhrelech unwaith ac oedd y bobl leol yn dweud 'dy'n ni ddim wedi cael noson fel hyn ers John ac Alun yn 1993!"
Hefyd o ddiddordeb: