Munud o dawelwch i gofio Aberfan 'yn gysur' i'r gymuned

  • Cyhoeddwyd
Aberfan
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw 116 o blant a 28 o oedolion yn y trychineb ar 21 Hydref 1966

Mae Elusen Coffa Aberfan wedi croesawu penderfyniad gan Gyngor Sir Gaerfyrddin i gynnal munud o dawelwch yn ysgolion y sir i gofio am y trychineb ar 21 Hydref bob blwyddyn.

Pleidleisiodd y cyngor llawn o blaid cynnig i goffáu'r digwyddiad yn holl ysgolion cynradd y sir.

Bydd angen i bwyllgor addysg yr awdurdod gadarnhau'r penderfyniad, ond mae cadeirydd y pwyllgor addysg eisoes wedi datgan ei gefnogaeth.

Bu farw 116 o blant a 28 o oedolion yn y trychineb ar 21 Hydref 1966, pan gladdwyd yr ysgol gynradd leol ger Merthyr Tudful dan lo.

'Ton o gydymdeimlad'

Wrth ymateb i'r bleidlais, dywedodd Cadeirydd Elusen Coffa Aberfan, David Davies: "Mae'r rhai oroesodd, a gafodd eu hanafu neu a gollodd anwyliaid - ynghyd â'r gymuned ehangach - bob tro o dan deimlad wrth feddwl bod pobl Cymru a'r byd heb anghofio'r hyn ddigwyddodd yn Aberfan.

"Mae'r miloedd sydd wedi ymweld â'r ardd goffa dros y blynyddoedd yn dyst i hynny. Fe lifodd ton o gydymdeimlad dros ein cymuned yn 2016 ar hanner can mlwyddiant y trychineb.

"Wrth i ni gyrraedd 53 mlynedd ers trychineb Aberfan, rydym yn gwybod y bydd plant ysgolion Caerfyrddin yn oedi am ennyd i feddwl am Aberfan.

"Mae hynny'n mynd i fod yn gysur mawr i bawb ohonom."

'Pris y glo'

Geiriad y cynnig gerbron cynghorwyr Sir Gâr oedd: "Cofio Aberfan a phris y glo - bod Cyngor Sir Gaerfyrddin yn gwahodd ein hysgolion i gynnal munud o ddistawrwydd ar 21 Hydref bob blwyddyn i gofio am y 144 o blant, athrawon ac eraill a fu farw ar y dyddiad hwnnw yn Aberfan yn 1996, ynghyd â'r miloedd eraill a fu farw yn y diwydiant glo yn y sir yma ac ar draws Cymru.

"Rydym hefyd yn gwahodd siroedd eraill Cymru a'u hysgolion i ystyried cynnal gweithred debyg o goffáu."