Cofio cyn athrawes trychineb Aberfan, fu farw yn 75 oed
- Cyhoeddwyd
Mae athrawes a arweiniodd blant i le diogel pan ddigwyddodd trychineb Aberfan yn 1966, wedi marw yn 75 oed.
Roedd Hettie Williams yn gweithio yn Ysgol Gynradd Pantglas pan lithrodd tomen lo i lawr mynydd a chladdu ysgol gynradd a deunaw o dai ym mhentref Aberfan
Ar y pryd roedd yn 23 oed ac yn cael ei nabod fel Miss Taylor, ac yn dysgu disgyblion y flwyddyn gyntaf mewn dosbarth yn rhan flaen yr ysgol.
Bu farw 144 o bobl, gan gynnwys 109 o blant a phump o athrawon.
Bu farw Mrs Williams yn gynharach ym mis Awst ac fe gafodd ei hangladd ei chynnal yn Eglwys Dewi Sant, Rhymni ddydd Iau.
Gwasanaeth teimladwy
Roedd cyn-ddisgyblion a oroesodd y drychineb ymhlith y cannoedd o alarwyr, a chynrychiolwyr yr elusen ganser, Helping Hands, yr oedd Mrs Williams wedi ei chefnogi am flynyddoedd.
Hefyd yno roedd AS Merthyr Tudful a Rhymni, Gerald Jones, oedd yn un o'i chyn ddisgyblion yn Ysgol Gynradd Phillipstown yn Nhredegar Newydd.
"Roedd hi'n berson rhadlon iawn," meddai Mr Jones. "Roedd yn wasanaeth teimladwy iawn oedd yn adlewyrchu pob rhan o'i bywyd."
Mewn cyfweliad â BBC Cymru yn 2016 ar achlysur hanner canmlwyddiant trychineb Aberfan, dywedodd Mrs Williams ei bod "yn dal i weld y plant yn y dosbarth" yn y fan lle roedd yr ysgol yn arfer bod.
"Rydych ni'n gallu meddwl yn ôl a chofio ei fod yn le hyfryd," dywedodd.
Fe ddisgrifiodd sut yr aeth ati gyda'r tri o athrawon eraill wnaeth oroesi i sefydlu ysgol ysgol yn y ganolfan gymunedol leol ar gyfer y plant oedd ar ôl.
Cyn ymddeol fe fu hefyd yn dysgu mewn ysgolion yn Abertysswg a Bargoed.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2016
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2016