Ateb y Galw: Yr actor Andrew Teilo

  • Cyhoeddwyd
Andrew Teilo

Yr actor Andrew Teilo sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, ar ôl iddo gael ei enwebu gan Simon Watts yr wythnos diwethaf.

Andrew sy'n actio bad boy Cwmderi, Hywel Llywelyn, sydd wedi cael mwy na'i siâr o berthnasau, affêrs a ffraeon ers iddo ddod i'r Cwm gyntaf yn 1990.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Dringo ysgol y paentiwr i ben to y tŷ pan oeddwn i tua thair oed.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Debbie Harry. Yn ddios. Neb arall yn y ras... Ond am Kate Bush... Na. Debbie Harry.

Ffynhonnell y llun, Gie Knaeps
Disgrifiad o’r llun,

"Fi sy'n ennill!" Debbie Harry yn canu gyda Blondie yn 1977

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Pan ro'n i'n ddeunaw oed, dywedais wrth gyn-fos i mi, dyn yn ei ganol-oed, ei fod yn ddi-glem fel rhiant. Ro'n i'n hunangyfiawn a ffol. Hoffwn ymddiheuro iddo, er ei bod hi braidd yn rhy hwyr...

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Ychydig ddyddiau yn ôl, ar ôl i un o'm meibion symyd i'w dŷ ei hunan.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Gormod ohonynt... Cnoi ewinedd. Rhegi. Bod yn lled ddiog wrth ddyblu 'n'.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Bryngaer Y Garn Goch, ger Bethlehem. Mae rhywun yn teimlo cysylltiad cryf â'i gyndeidiau yno, a cheir yno hefyd un o olygfeydd mwyaf godidog Cymru.

O archif Ateb y Galw:

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Aros ar ddihun drwy'r nos i glywed y newyddion yn yr oriau mân fod Cymru wedi ennill y bleidlais dros ddatganoli ym mis Medi, 1997.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Penboeth. Triw. Creadigol.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Ffilm - Napoleon Dynamite. Llyfr - Enwau Afonydd a Nentydd Cymru gan R J Thomas.

Disgrifiad o’r llun,

Andrew fel Hywel Llywelyn yn cael llymaid yn y Deri gyda rhai o'i gyd-gymeriadau, ddechrau'r 90au

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Y ddwy fam-gu a'r ddau dad-cu; rwy'n sylweddoli nawr cymaint na ofynnais iddynt pan ro'n nhw'n fyw. Te a sieri'n unig, cofiwch.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Enillais gystadleuaeth 'darllen ysgrif yn y Lladin ar goedd i'r dosbarth' yn Ysgol Tregîb yn 1977.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Eistedd yn yr ardd gyda'm gwraig, yn yfed jin, ac yn mwynhau'r olygfa wych sydd yno.

Beth yw dy hoff gân a pham?

Eto, gormod ohonynt... Unrhywbeth gan Y Cyrff, Jess, Sonic Youth, Wedding Present. Hoff iawn o Los Blancos ar y foment.

Disgrifiad o’r llun,

Y Cyrff - un o hoff fandiau Andrew

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Arancini. Risotto Primavera. Hufen iâ salted caramel. (Neu bwdin nadolig falle!)

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Fi, yn ddeunaw oed, ac wedi dysgu sut i gadw 'ngheg ar gau pan fod angen!

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Hywyn Williams

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw