Carcharu gyrrwr wnaeth 110mya ar yr A470 yn Eryri

  • Cyhoeddwyd
Darren WilliamsFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru

Mae dyn wedi ei garcharu ar ôl gyrru ar gyflymder o hyd at 110mya yn Eryri mewn car oedd wedi'i ddwyn.

Clywodd llys bod Darren Williams, 27 o Flaenau Ffestiniog, yn cael ei ddilyn gan yr heddlu pan yrrodd am 21 milltir.

Dywedodd y barnwr ei fod yn debyg bod teithiwr yn y car wedi neidio o'r cerbyd oherwydd ofn, ac wedi cael anaf difrifol i'w ymennydd.

Fe wnaeth Williams gyfaddef gyrru'n beryglus, yfed a gyrru, gyrru heb yswiriant a chymryd cerbyd heb ganiatâd.

'Di-hid a gwirion'

Clywodd Llys y Goron Caernarfon bod wyneb yr A470 yn wlyb wrth i Williams yrru ar hyd at 110mya ac ar ochr anghywir y ffordd.

Dywedodd y Barnwr Huw Rees: "Fe wnaeth y teithiwr neidio o'r cerbyd am resymau sydd ddim yn glir, gan daro'r palmant gyda'r nerth i achosi anaf difrifol i'w ymennydd."

Clywodd y llys bod y teithiwr, cydweithiwr 20 oed i Williams, wedi ei ddarganfod yn cael trafferth anadlu ac yn anymwybodol. Roedd ei benglog wedi'i dorri.

Mae bellach yn ôl gyda'i deulu yn y Weriniaeth Czech.

Fe wnaeth Williams, rheolwr cynorthwyol mewn gwesty, gyfaddef cymryd Ford Kuga ei gyflogwr yng Nghapel Curig a'i yrru i Flaenau Ffestiniog.

Dywedodd y barnwr ei fod wedi ymddwyn yn "ddi-hid a gwirion".

Cafodd Williams ddedfryd o flwyddyn dan glo a'i wahardd rhag gyrru am dair blynedd a hanner.