Un o rasys beicio mynydd anodda'r byd yn dod i Wynedd

  • Cyhoeddwyd
red bull hardlineFfynhonnell y llun, Red Bull Hardline
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Red Bull Hardline yn cael ei chydnabod fel un o'r rasys beicio mynydd anoddaf yn y byd

Dros y penwythnos bydd miloedd o bobl yn heidio i Ddinas Mawddwy ar gyfer cystadleuaeth rasio beics mynydd Red Bull Hardline.

Mae'n cael ei chydnabod fel un o'r rasys beicio mynydd anoddaf yn y byd.

Mae cwrs arbennig wedi cael ei baratoi ar gyfer y gystadleuaeth, sy'n arbennig o heriol.

Yn ôl un cynghorydd sir lleol, mae'r digwyddiad yn hwb i economi'r ardal.

Dywedodd John Pugh Roberts: "Mae 'na 3,000 o docynnau ceir wedi mynd mewn 'chydig iawn o amser, felly os oes dim ond dau ymhob car mi fydd o'n filoedd o bobl yn y cylch."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Berwyn Hughes fod pobl sy'n dod i wylio'r rasio yn dod yn eu holau dros y flwyddyn

Berwyn Hughes a'i deulu sy'n cadw tafarn y Llew Coch yn Ninas Mawddwy.

Mae'r rasio yn cael ei ddangos ar sgrîn yno a dywedodd Mr Hughes fod pobl sy'n dod i wylio'r rasio yn dod yn eu holau dros y flwyddyn.

Dywedodd Mr Hughes: "Maen nhw yn dod, yn amlwg, i wylio ond hefyd yn dod yn ôl achos maen nhw wedi mwynhau'r ardal."

Gwerth £54m i'r economi

Yr amcangyfrif yw bod beicio mynydd gwerth £54m i economi Cymru pob blwyddyn.

Hefyd ddydd Sadwrn bydd canolfan Antur Stiniog ym Mlaenau yn agor pedwar llwybr newydd.

Mae'r datblygiad newydd wedi costio tua £130,000 i'w adeiladu, gyda nawdd gan gynllun cefnogi twristiaeth Llywodraeth Cymru.