Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 1-1 Sutton United

  • Cyhoeddwyd
WrecsamFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Wrecsam wedi mynd chwe gêm gynghrair heb ennill bellach, ar ôl cael gêm gyfartal gyda Sutton United ar y Cae Ras ddydd Sadwrn.

Yr ymwelwyr gafodd y cyfleoedd gorau yn yr hanner cyntaf, ond roedd hi'n parhau'n ddi-sgôr ar yr egwyl.

Er mai Wrecsam oedd yn pwyso yn yr ail hanner, Sutton aeth ar y blaen ar ôl 63 munud, gyda Harry Beautyman yn rhwydo.

Ond gyda phum munud yn weddill cafodd Craig Eastmond ei yrru o'r maes i Sutton United am lawio peniad oedd yn amlwg ar ei ffordd i'r rhwyd.

Llwyddodd Bobby Grant i sgorio o'r smotyn i'w gwneud hi'n gyfartal, gan sicrhau pwynt i'r tîm cartref.