Gwaith pellach yn dechrau i atal llifogydd Llanelwy

  • Cyhoeddwyd
Llifogydd Llanelwy yn 2012

Bydd gwaith yn dechrau ddydd Llun ar gynlluniau pellach i atal llifogydd yn Llanelwy.

Yn 2012 fe effeithiodd y llifogydd ar 320 o adeiladau a bu farw dynes oedrannus.

Y tro hwn bydd gwaith yn cael ei wneud ar gyffordd Ffordd Isaf Dinbych a Ffordd Glascoed - ardal sydd â hanes o lifogydd.

Bydd cwlfer Plas Roe, a leolir rhwng Ffordd Isaf Dinbych a'r gyffordd â Ffordd Glascoed, yn cael ei ddisodli gan gwlfer bocs concrit newydd.

Rhybudd i yrwyr

Mae yna rybudd i yrwyr y bydd systemau goleuadau traffig tair ffordd yn yr ardal am bythefnos.

Bydd Ffordd Isaf Dinbych yn cau ar Hydref 2 am gyfnod o hyd at wyth wythnos er mwyn cwblhau'r gwaith.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd llifogydd difrifol yn Llanelwy wedi glaw trwm yn 2012

Dywedodd y Cynghorydd Brian Jones, yr aelod o'r cabinet sy'n arwain ar faterion yn ymwneud â phriffyrdd a'r amgylchedd: "Rydym wedi gwneud ymrwymiad cadarn yn ein cynllun corfforaethol i gymryd camau i geisio atal llifogydd a lleihau'r perygl o lifogydd i gartrefi a busnesau trwy reoli perygl llifogydd yn effeithiol.

"Rydym yn gobeithio y bydd y gwaith sy'n cael ei wneud yn lleddfu rhai o'r problemau llifogydd hanesyddol yn y rhan hon o Lanelwy ac yn cynnig tawelwch meddwl i'r trigolion lleol."

Ychwanegodd bod y cyngor hefyd am "roi rhybudd ymlaen llaw am y gwaith, yn enwedig gyda chau ffordd isaf Dinbych ddechrau mis Hydref" a'u bod "yn ymddiheuro am unrhyw amhariad a achosir gan y gwaith hanfodol hwn"